Datganiadau i'r Wasg

Abertawe'n Destun Arddangosfa

Mae llygaid Llundain ar Abertawe wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gael ei chynnwys mewn arddangosfa arbennig yn Academi Frenhinol y Celfyddydau.

Mae Chris Wilkinson, Pensaer o Wilkinson Eyre, a ddyluniodd yr adeilad eiconig yn Ardal Forol Abertawe, wedi derbyn gwahoddiad i gynnal arddangosfa o'i waith ar ôl cael ei ethol yn Academydd Brenhinol. Yr Academyddion Brenhinol yw'r unigolion pwysicaf ym maes celf gyfoes ym Mhrydain, ac sy'n gyfrifol am lywodraethu a llywio datblygiad yr Academi. Mae'r arddangosfa'n trafod tri phroject a ddyluniwyd gan Wilkinson Eyre, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Yn ôl Mr Wilkinson, “Mae'r tri phroject yma'n adrodd stori yngl?n â dull Penseiri Wilkinson Eyre o greu adeiladau, rhwng cael y syniad gwreiddiol a'i wireddu”.

Aeth yn ei flaen, “Megis dechrau Amgueddfa Mary Rose yr ydym ni, felly nid yw ond yn cynnwys rhan gyntaf y stori. Mae'r King's Waterfront yn Lerpwl yn symud y stori yn ei blaen, a daw'r stori i ben gydag adeilad sydd wedi'i gwblhau, sef Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Rwy'n credu'n gryf bod yn rhaid i bensaernïaeth fod yn berthnasol i safle, felly mae i'r projectau hyn gysylltiadau penodol â'u hardal”.

Wilkinson Eyre yw un o gwmnïau pensaernïol mwyaf blaenllaw'r DU, a chanddo bortffolio o brojectau ym Mhrydain a thu hwnt. Mae'r cwmni wedi ennill cyfres o wobrau - yn wir, dyma'r unig gwmni i ennill y Stirling Prize for Architecture gan RIBA ddwy flynedd yn olynol.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a agorwyd ym mis Hydref 2005, eisoes wedi ennill gwobrau am ei dyluniad, gan gynnwys Gwobr RIBA, Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig a Gwobr yr Arglwydd Faer am Ddylunio.

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: “Mae cydnabyddiaeth o'r math yma'n newyddion gwych i Abertawe. Rhaid llongyfarch tîm y project am ddewis pensaer o safon sydd wedi creu adeilad mor rhagorol.”

Mae'r Amgueddfa'n cynnwys warws restredig sydd wedi'i hadnewyddu yn ogystal ag adeilad newydd wedi'i orchuddio â gwydr a llechi. Mae'r rhain yn cynnwys orielau cyfoes ag ynddynt nenfwd digon uchel a digon o olau i arddangos eitemau o faint mwy. Mae'n adrodd hanes diwydiant Cymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a'i nod yw sicrhau mynediad agored yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd.

Bydd yr arddangosfa ar agor yn yr Academi Frenhinol tan 13 Tachwedd 2006, a bydd Chris Wilkinson yn rhoi darlith yn yr Academi ddydd Llun 9 Hydref am 6.30 pm. Gallwch wylio cyfweliad gyda Chris Wilkinson, sy'n cynnwys sgwrs ar Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar y we yn http://www.royalacademy.org.uk/architecture/interviews/.

Un o Amgueddfeydd Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.