Datganiadau i'r Wasg

Cyfle Olaf i Weld Dwy Arddangosfa

Peidiwch â cholli'ch cyfle olaf i weld dwy arddangosfa boblogaidd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae Wynebau Cymru a Marwolaeth yng Nghymru:4000-3000 CC – dwy arddangosfa wahanol iawn – wedi cydio yn nychymyg miloedd o ymwelwyr drwy gydol yr haf, ac mae'r ddwy yn cau ar 24 Medi.

Mae Wynebau Cymru yn cyflwyno lluniau a ffotograffau o bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y 400 mlynedd diwethaf. Mae'n cynnwys portreadau gan artistiaid fel Thomas Gainsborough, Johann Zoffany ac Augustus John. Mae'r rhan fwyaf o'r testunau'n ffigurau Cymreig amlwg, ond mae cysylltiadau cryf eraill â Chymru'n llai adnabyddus. Mae'r arddangosfa'n cyflwyno delweddau o ffigurau mawr bywyd gwleidyddol, diwylliannol a chyhoeddus Cymru o'r 16eg ganrif hyd heddiw.

Yn gwrthgyferbynnu'n gyfan gwbl, mae Marwolaeth yng Nghymru:4000-3000 CC yn arddangosfa sy'n dangos chwyldro yng Nghymru dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd cerrig anferth yn cael eu trefnu fel cartrefi i'r meirw ac esgyrn dynol yn offer i'r byw. Gwahanol iawn i'r ffordd o ddelio gyda marwolaeth yn y byd modern. Mae'r arddangosfa yn llwyddo i ymdrin â phwnc hynod sensitif mewn ffordd urddasol iawn.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu ei horielau celf. Bydd rhai orielau celf ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr Amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau . Am wybodaeth yngl?n â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch (029) 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.