Datganiadau i'r Wasg

'Samplwch' Amgueddfa Wlân Cymru

Dysgwch sut i gynllunio a chreu sampler yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ddydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21 Hydref gyda chymorth y bwyth wraig boblogaidd, Susan Smith.

Wrth i'r dyddiau fyrhau ac oeri, mae Amgueddfa Wlân Cymru'n cynnig cyfle i ddysgu crefft y gellir ei gwneud yn nghynhesrwydd eich cartref eich hun.

Cynhelir y gweithdy 'Cynllunio a Gwneud Sampler' o 11.00 tan 4.00 pm ar y ddau ddiwrnod, a bydd mynychwyr yn dysgu sut i wneud sampleri o'u hoff luniau, gweithio gyda llythrennau a dysgu sut i droi syniadau ar bapur yn sampleri go iawn.

Meddai Sally Moss, Curadur Amgueddfa Wlân Cymru:

“Rydym yn ffodus iawn i groesawu Susan Smith yn ôl. Bu'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ystod ei hymweliad diwethaf. Mae sampleri yn anrhegion arbennig a phersonol, felly os ydych chi eisoes yn meddwl am y Nadolig beth am ymuno â ni ddiwedd Hydref i wneud anrheg personol iawn?” Am ragor o wybodaeth am y gweithdy neu i bwcio lle, cysylltwch â Kate Evans ar (01559) 370 929. Pris y gweithdy yw £25, sy'n cynnwys deunyddiau a chinio bwffe.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.