Datganiadau i'r Wasg

Partneriaeth Berffaith

Lansiwyd casgliad newydd o waith celf a grëwyd gan rai o aelodau Hafal - y prif sefydliad yng Nghymru sy'n gweithio gyda phobl sy'n adferiad o afiechyd meddwl difrifol - yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Dros fisoedd yr haf cynhaliodd Hafal, ar y cyd gydag Adran Addysg Sain Ffagan, gwrs celf a oedd yn rhoi cyfle i aelodau'r mudiad fynegi'u hunain yn greadigol yn amgylchedd heddychlon yr amgueddfa awyr agored.

Bu adeiladau hanesyddol poblogaidd Sain Ffagan yn ysbrydoliaeth i'r myfyrwyr. Cawson nhw gyfle i beintio, creu lluniau dyfrlliw, defnyddio siarcol ac arlunio o dan arweiniad ac arbenigedd eu hathrawes Caroline Smith, gan greu casgliad amrywiol o waith celf.

Disgrifiodd un myfyriwr y cwrs fel rhywbeth hollol wahanol i'r hyn oedd yn ei ddisgwyl: “Roeddwn i'n meddwl mai lluniau dyfrlliw yn unig y bydden ni'n eu gwneud, ond roedd y cwrs yn llawer mwy na hynny,” dywedodd Susan Callan o'r Rhath.

Cwblhaodd Claire Evans o Dreganna y cwrs llynedd ond penderfynodd ei ddilyn eto: “Mae'r cwrs yn eich helpu i weld pethau yn eu gwir oleuni ac yn rhoi cyfle i chi fynegi eich hun.”

Dywedodd Lynda Woollard, Rheolwr Gwasanaethau Hafal Caerdydd:

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r hyn mae'r myfyrwyr wedi ei gyflawni eleni a bydd pob un ohonynt yn derbyn tystysgrif arbennig. Mae cyrsiau fel hyn yn rhan o'n proses adferiad, gan roi cyfle i'n haelodau ddysgu sgiliau newydd a gwella eu hunan hyder. Hoffwn ddiolch i Caroline Smith am arwain y gr?p ac Adran Addysg Sain Ffagan am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad.”

Cartref Hafal Caerdydd sydd yn cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl sydd yn dod dros salwch meddwl difrifol, yw Ysgubor Fawr yn Sain Ffagan. Dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Gweithredu yr Amgueddfeydd:

“Mae Hafal yn llawer mwy na thenant i Amgueddfa Cymru. Rydyn ni'n falch iawn o allu cynnig cyfleusterau iddyn nhw yma yn ogystal â chefnogaeth i allu cynnig cyrsiau mor werthfawr i'w haelodau.

“Mae safle awyr agored Sain Ffagan, yr adeiladau, pensaernïaeth a'r cyfnodau gwahanol a bortreadir yn cynnig amgylchedd creadigol ac addysgiadol perffaith.”

Arddangosir y gwaith celf yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan. Ceir mynediad am ddim i'r Amgueddfa diolch i gefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.