Datganiadau i'r Wasg

Dewch i Lanberis i Glywed Gweledigaeth Amgueddfa Cymru!

Bydd cyfle i ymuno mewn trafodaeth arbennig yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis am 2.30pm, ddydd Gwener 29 Medi. Mae’r digwyddiad yn un o gyfres gan Amgueddfa Cymru i drafod ei Gweledigaeth a’i datblygiad dros y deng mlynedd nesaf i fod yn Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol. Bydd cyfle hefyd i glywed am rhai o weithgareddau Partneriaeth y sefydliad ar hyd a lled Cymru.

Bu'r amgueddfa yn gweithio ar y Weledigaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf dan arweiniad ei Chyfarwyddwr Cyffredinol, Michael Houlihan.

Y llynedd bu'n ymgynghori ar ei chynnwys gydag ymwelwyr, cyfeillion, cefnogwyr a'r rheini yn y maes. Bwriad y digwyddiadau yw rhoi cyfle i'r rhai fu'n dweud eu dweud i glywed sut y bydd y cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn ystod y blynyddoedd nesaf.

I sicrhau lle yn y gynulleidfa cysylltwch â Kay Hanson ar 029 2057 3328; e-bost rsvp@amgueddfacymru.ac.uk. Mae llefydd yn brin felly mae'n rhaid cysylltu ymlaen llaw. Bydd recordiad arbennig o’r cyfarfod yn ymddangos ar ein gwefan – www.amgueddfacymru.ac.uk . Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes – I’r Gymru Fydd, sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.