Datganiadau i'r Wasg

Llu o weithgareddau'r Hydref i'r teulu oll yn ne ddwyrain Cymru

Bydd llu o weithgareddau llawn hwyl ar gael i'r rhai sy'n ymweld â Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ym mis Hydref.

Arddangosfa sy'n adrodd hanes bywyd a brwydr Paul Robeson, actor, canwr ac ymgyrchydd dros hawliau sifil o America yw Gadewch i Paul Robeson Ganu!. Daeth yn arwr ymysg y dosbarth gweithiol yng Nghymru, ac fe gafodd le yng nghalon y Cymry. Cewch eich ysbrydoli gan yr arddangosfa sy'n adrodd hanes gwefreiddiol ei frwydr yn erbyn anoddefgarwch a rhagfarn.

Mae'r arddangosfa'n agor ar 30 Medi ac yn cau ar 12 Hydref.

Yn ogystal â hyn, ym mis Hydref bydd Lluniau a Lleisiau yn arddangos gwaith y plant ysgol lleol sydd wedi bod yn gweithio gyda'r artist Keith Bayliss a'r bardd Peter Read i greu gwaith celf sy'n plethu lluniau a geiriau ynghyd, gan gael ysbrydoliaeth o bosteri a phrintiau lliwgar Peter Paul Piech.

Bydd yr arddangosfa'n agor ar 5 Hydref, sef Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, ac yn cynnwys dathliad o'r gwaith gyda darlleniadau a pherfformiadau gan Peter Read a'r plant.

Mis Hydref yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, bydd cyfle hefyd i deuluoedd fynd ar daith ar Lwybr yr Orielau, a hyd yn oed ennill gwobr os byddant yn ei gwblhau. Yn ogystal â hyn, cynhelir nifer o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu bob penwythnos, gan gynnwys gwisgo fel milwr neu arglwyddes Rufeinig a chyfle i ymarfer sgiliau creadigol ar y Cert Celf.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.