Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n dathlu ei phen-blwydd cyntaf

Mae Amgueddfa genedlaethol mwyaf newydd yng Nghymru’n dathlu ei phen-blwydd cyntaf.

Ers iddi agor ar 17 Hydref, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - rhan o teulu Amgueddfa Cymru - wedi croesawu tua 240,000 o bobl.

Drwy gyfres o 15 o arddangosfeydd thematig, gall ymwelwyr archwilio storïau dynol cyffrous yngl?n â hanes ac arloesi yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf.

Ceir 100 o arddangosiadau clyweled gan gynnwys 36 o arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd â pheiriannau mawr iawn o Gymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Mae'r rhain yn cynnwys melin rholio dur gan Corus sy'n pwyso 28 tunnell, locomotif stêm gyntaf y byd, gwasg friciau a wagen lo sy'n brin iawn erbyn heddiw.

Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i'r holl deulu drwy gydol y flwyddyn.

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan, yn falch dros ben gyda llwyddiant Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dywedodd:

"Yn ddiau mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi dal ar ddychymyg pobl o Gymru, y DU a thu hwnt. Mae llwyddiant ei blwyddyn gyntaf yn deyrnged i bawb a gymerodd ran yn y project, ac rwy'n hyderus y bydd yr amgueddfa'n parhau o nerth i nerth.

"Mae'n amgueddfa wahanol iawn i'r math o amgueddfeydd a geir mewn llawer o wledydd eraill, ac yn rhan annatod o'n gweledigaeth fel sefydliad, sef bod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol."

Mae'r Amgueddfa eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gyrff amrywiol am ansawdd yr adeilad ei hun a'r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir i ddehongli'r casgliadau, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Ddinesig, Gwobr RIBA a'r Structural Steel Design Award. Cafodd hefyd ei chynnwys yn un o bump ar restr fer gwobr 'Family Friendly Museum' y Guardian a'r Gwobrau Rhagoriaeth ym maes Amgueddfeydd a Threftadaeth.

"Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau achos i ddathlu ar ei phen-blwydd cyntaf. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio mae'r amgueddfa wedi datblygu'n icon cenedlaethol o safbwynt diwylliant a phensaerniaeth. Mae'n ail-greu hanes diwydiannol Cymru mewn modd atyniadol a hygyrch gan sicrhau bod cynulleidfa eang o bob oedran yn gallu mwynhau y rhan hon o'n hetifeddiaeth gyfoethog ac amrywiol. Mae rhywbeth i bawb yn yr amgueddfa unigryw hon, fydd yn sicr yn dal i ddiddori ac addysgu cenedlaethau i ddod."

Dyfarnwyd grant o £11 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y datblygiad £33.5 miliwn - y grant mwyaf a ddyfarnwyd erioed yng Nghymru. Penseiri Wilkinson Eyre a wnaeth y dyluniad, oedd yn golygu cysylltu warws Gradd II restredig (hen Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe) ag adeilad newydd o lechi a gwydr. Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yn Ardal Forol newydd Abertawe ac yn rhan o'r gwaith o adfywio'r ardal. Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac Amcan Un yr UE a ddarparodd gweddill y nawdd ynghyd â chyfranwyr a noddwyr eraill preifat.

Dywedodd Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi ymrwymo i ariannu prosiectau sy'n diogelu ein treftadaeth gan alluogi pawb yng Nghymru i'w mwynhau. Mae'r project hwn yn gwneud hynny a llawer mwy. Yn ogystal â bod yn lle i bobl o Gymru a thu hwnt gael mwynhau a dysgu, mae'n cyfrannu i adfywio economi a chymunedau o amgylch de Cymru. Ein nod yw galluogi cymunedau i ddathlu a gofalu am ein treftadaeth amrywiol a dysgu mwy amdani, ac mae'r amgueddfa hon yn rhan annatod o hynny."

Mae Arweinydd Cyngor Abertawe, Chris Holley, hefyd o'r farn bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n gaffaeliad i Gymru gyfan yn ogystal ag Abertawe. Dywedodd: "Bu blwyddyn gyntaf yr Amgueddfa'n llwyddiant aruthrol, ac mae'r Cyngor yn arbennig o falch o fod yn rhan o'r project". "Dyma atyniad gwych sy'n denu ymwelwyr i ganol dinas Abertawe ac sy'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith adfywio."

Nodiadau i Olygyddion

Bydd yr Amgueddfa'n dathlu ei phen-blwydd cyntaf drwy gyhoeddi cerdd gan Gwyneth Lewis, a ddarllenwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg yn yr agoriad. Bydd y gerdd yn cael ei argraffu ar ddarlun coffa arbennig, ac ar werth yn siop yr Amgueddfa. Ar ddiwrnod y dathliad (17 Hydref), bydd ymwelwyr yn cael darn o gacen pen-blwydd ac yn cael cyfle i roi gwybod i ni pa ran o'r Amgueddfa sydd orau ganddynt.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n perthyn i Amgueddfa Cymru, sy'n gweinyddu chwe amgueddfa genedlaethol arall ar hyd a lled Cymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.