Datganiadau i'r Wasg

Diwrnod Agored Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
21 October 2006

Mae Amgueddfa Cymru’n cynnal ei diwrnod agored cyntaf, ddydd Sadwrn 21 Hydref.

Bydd y diwrnod, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn llawn gweithgareddau a gweithdai anffurfiol yn cynnig cip gwahanol ar waith yr amgueddfa.

Mae Amgueddfa Cymru’n newid a rydym ni am gael eich barn pobl ar rai o’r newidiadau. Mae’r diwrnod yma’n gyfle i chi ddod i leisio’ch barn; be sy’n mynd â’ch bryd – neu beidio -yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y diwrnod ei hun, ewch i’n gwefan – www.amgueddfacymru.ac.uk <http://www.amgueddfacymru.ac.uk/> Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.