Datganiadau i'r Wasg

Dyfodol Disglair i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell

Diwrnod Agored arbennig yn amgueddfa genedlaethol fwyaf newydd Cymru ar ddydd Sadwrn 21 Hydref fydd y cyfle cyntaf i weld sut mae Amgueddfa Cymru yn trawsnewid ei ffordd o ymwneud â phobl Cymru.

Y datblygiad hwn yw’r prif newid yn Siarteri diwygiedig yr Amgueddfa a’r Llyfrgell a gyhoeddir yn swyddogol heddiw (10 Hydref 2006).

Mae’r Siarter ddiwygiedig yn adlewyrchu llawer o ddyheadau’r Amgueddfa, gan gynnwys nifer o elfennau creiddiol y Weledigaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae’n cynnig her newydd a chyffrous i’r sefydliad i sicrhau atebolrwydd i’r cyhoedd, ar gychwyn ei ail ganrif.

Dywedodd Llywydd Amgueddfa Cymru, Paul Loveluck:

“Mae ein Siarter ddiwygiedig ni a’r Llyfrgell yn cael eu cyhoeddi wrth i ni gychwyn ar ein hail ganrif. Rwy’n sicr bod y ddau sefydliad yn croesawu’r newidiadau ac yn hyderus y bydd y Siarteri hyn yn rhoi cyfle i ni fod yn sefydliadau mwy atebol a heriol yn y dyfodol.”

Meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Pwrpas Amgueddfa Cymru yw gofalu am drysorau’r genedl, ac felly mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud ac i weld sut rydyn ni’n gweithio ac yn dod i wahanol benderfyniadau. Rydym felly yn datblygu cyfres o ddiwrnodiau agored, a fydd yn gyfle i bawb alw mewn i drafod ein gwaith, ein hamcanion, ac i gael blas ar ein casgliadau cenedlaethol ardderchog.

“Mae hyn yn ddatblygiad pwysig ac mae’r Siarter ddiwygiedig yn ein galluogi i gyfathrebu gyda phobl sydd â diddordeb yn ein gwaith mewn ffordd llawer mwy deinamig nac o’r blaen. Rydym yn annog dadlau a thrafod ac yn croesawu’r cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith a Chymru gael mynegi barn.

“Rydym ni fel sefydliad yn gyffrous iawn am y datblygiad a’r sialens mae hyn yn ei gynnig i Amgueddfa Cymru ar gychwyn ein hail ganrif,” ychwanegodd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisoes wedi cychwyn ar y drefn o gynnal cyfarfodydd agored, ac fe gynhaliwyd y cyntaf ym mis Medi eleni, fis ar ôl i’r Llyfrgell a’r Amgueddfa gydweithio’n agos ar eu presenoldeb llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Meddai’r Llywydd, Brinley Jones:

'Mae arwyddo'r siarter hon yn arwydd o ewyllys Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gydweithio ag Amgueddfa Cymru. Credwn y bydd hynny er lles y Llyfrgell a'n chwaer sefydliad, yr Amgueddfa, ond yn bwysicach er lles Cymru. Ffrwyth y cydweithio hyn fydd gwell cydnabyddiaeth o'n gwaith a'n casgliadau ymhob rhan o Gymru a thu hwnt.'

Ychwanegodd Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh:

"Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorau cenedlaethol ac rwy'n sicr y bydd pobl Cymru yn falch o'r cyfle i fod yn rhan o lunio dyfodol ein casgliadau cenedlaethol. Rwy'n falch bod yr Amgueddfa a’r Llyfrgell yn wynebu her yr ail ganmlwyddiant gyda hyder a gweledigaeth glir." 

Bydd y Diwrnod Agored cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn gyfle i bobl gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau a gweithdai anffurfiol yn amgueddfa genedlaethol fwyaf newydd Cymru. Bydd cyfle hefyd am sgwrs a thrafodaeth gyda rhai o brif swyddogion y sefydliad a byddwn yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol mewn sesiwn drafod arbennig.

Mae’r Diwrnod Agored yn cychwyn am 10.30 am ac mae croeso cynnes i bawb. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o brif lyfrgelloedd y Byd. Mae ei chasgliadau’n cynnwys bron i 5 miliwn llyfr, dros filiwn o fapiau, 800,000 ffotograff a thrysorau’r genedl gan gynnwys y copi gwreiddiol o’r Anthem Genedlaethol a Llyfr Du Caerfyrddin, y casgliad cynharaf o farddoniaeth a chwedloniaeth Gymraeg.