Datganiadau i'r Wasg

Corynnod ar y Glannau

Ymysg amryw o ddigwyddiadau eraill, cewch gyfle i ddysgu am gorynnod a'r bywyd gwyllt rhyfeddol sydd yn ein camlesi ac oddi amgylch yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod yr hanner tymor.

Dewch i ymuno â'n tîm yn yr amgueddfa un o'r sesiynau a gynhelir bob dydd rhwng dydd Sul 28 Hydref a dydd Sul 5 Tachwedd am 11am-1pm a 2pm-4pm, i gymryd rhan mewn gweithgareddau bywyd gwyllt sy'n seiliedig ar y camlesi, a chreu model o'r creadur prin - Corryn Rafftio'r Gors Galch.

Cewch hefyd gyfle bob dydd Sadwrn i gwrdd â Theithwyr Amser y Glannau am 11:30am, 2pm a 3.30pm. Hefyd, ar ddydd Sul cyntaf y mis bydd hi'n amser dweud stori ar Garped Hud yr Amgueddfa.

Un o Amgueddfeydd Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.