Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan yn cael blas ar Galan Gaeaf

Diwrnodau Afalau yn rhan o'r dathliadau yn yr Amgueddfa Werin

A hithau'n gyfnod Calan Caeaf, sy'n cael ei gysylltu yn draddodiadol â thwco afalau ac afalau taffi, mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cynnal Penwythnos Afalau ar 28 a 29 Hydref 2006.

O 10 y bore hyd 5 y prynhawn ddydd Sadwrn a dydd Sul, gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth eang o afalau; hen fathau, afalau hawdd i'w tyfu mewn gerddi bychain a rhai llai adnabyddus sy'n tyfu yn yr ardd gefn neu ar hyd y ffordd fawr.

Fel rhan o'r ?yl, byddwn yn chwilio am fath arbennig o afal sydd ar goll ar hyn o bryd sef Gabalfa. Bu'n tyfu yng Nghaerdydd rhwng 1880 a 1920 ac fe'i gwerthwyd gan Feithrin Treseder's. Bydd manylion a lluniau o'r afal yn cael eu harddangos dros y penwythnos ac anogir unrhywun sy'n gwybod hanes y Gabalfa i ddod â sampl gyda nhw i'r digwyddiad.

Meddai Andrew Dixey, Rheolwr Ystâd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:

“Yn draddodiadol cysylltir afalau â dathliadau Calan Gaeaf yng Nghymru, ac mae cynnal Diwrnodau Afalau yn Sain Ffagan y penwythnos yma yn gyfle i ni arddangos rhai o'r hen arferion. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, roedd ffermwyr yn arfer paratoi ar gyfer tymor y gaeaf trwy gasglu cnydau fel afalau; arferai pobl lenwi powlen o dd?r ag afalau a cheisio dal y ffrwyth gyda'u dannedd; a chredai trigolion bod croen afal, ar ôl ei daflu ar y llawr yn medru dynodi llythyren gyntaf enw eich priod.

“Bydd cyfle ddydd Sadwrn a dydd Sul, i flasu a dysgu am dros 400 math gwahanol o afal, mwynhau afalau taffi a gwylio J P James o Henffordd yn gwneud seidr yn y ffordd draddodiadol. Bydd bwydlen bwyty'r Amgueddfa hefyd yn cynnwys prydau ag afal.” Bydd digwyddiadau Calan Gaeaf Sain Ffagan yn parhau ar 30 a 31 Hydref pan gewch glywed hanes yr ysbryd Sarah sy'n debyg yn byw yng Nghastell Sain Ffagan, yn ogystal â gweld y Dyn Gwiail yn cael ei losgi. Calan Gaeaf yn Sain Ffagan:

28 – 29 Hydref
Diwrnodau Afalau; gwneud seidr, arddangosfeydd afalau, afalau taffi, afalau ar y fwydlen.
Gwneud Dyn Gwiail

30 Hydref
Gwneud Dyn Gwiail

31 Hydref
Twco Afalau (1 – 3:45 y prynhawn)
Straeon Ysbryd (2 y prynhawn)
Llosgi'r Dyn Gwiail (4:00 y prynhawn)

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.