Datganiadau i'r Wasg

Dysgwch sut i arbed ynni yn Big Pit y gwyliau hwn

Bydd ymwelwyr â Big Pit yn dysgu sut i arbed ynni o amgylch y cartref yn ystod gwyliau hanner tymor, a bydd cyfle i wneud neidr gwarchod gwres arbennig i gadw'r gwynt allan.

Mae Wythnos Arbed Ynni yn gyfle i ymwelwyr o bob oed edrych ar wahanol fathau o ynni mewn cyfres o arbrofion i'ch addysgu am ddefnydd o ynni yn y byd modern.

Er mwyn gwneud eich neidr gwarchod gwres, dewch â bag 1kg (2 bwys) o reis gyda chi.

Mae gweithgareddau'n rhedeg o 30 Hydref tan 3 Tachwedd, 11 am-4 pm. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.