Datganiadau i'r Wasg

Gwaith Lear wedi'i werthu i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru wedi llwyddo i sicrhau un o weithiau enwocaf y llenor a'r artist Fictoraidd, Edward Lear, Kanchenjunga from Darjeeling, gyda chefnogaeth hael y Gronfa Gelf (Art Fund) a nifer o gefnogwyr preifat. 

Comisiynwyd y llun gan noddwr Lear, Henry Bruce, Arglwydd Cyntaf Aberdâr ym 1873, ac mae wedi bod yng Nghymru ers iddo gael ei beintio. Fe'i cyflwynwyd i Gyngor Dosbarth Aberpennar ym 1924 gan Arglwydd Aberdâr. Fe'i gwerthwyd i Amgueddfa Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am £300,000.

Bu'n rhan o arddangosfa lwyddiannus yr Amgueddfa, Breuddwydion Oes Fictoria, a thalodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'r llun, a fu'n hongian ar y grisiau yn Llyfrgell Aberdâr, gael ei adnewyddu. 

"Bu'n bosibl prynu'r gwaith hwn diolch i grant hynod hael o £150,000 gan y Gronfa Gelf a chan nifer o roddion gan unigolion," yn ôl Oliver Fairclough, Ceidwad Celfyddyd Amgueddfa Cymru. "Rydym yn falch iawn bod modd cadw'r llun hwn yn ardal de Cymru, lle bu i'w weld ers iddo gael ei beintio yn y 1870au." 

"Rwy'n falch bod gan Kanchenjunga from Darjeeling gartref parhaol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae hwn yn gartref perffaith i waith mor arbennig," meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth.  

"Penderfynodd y Cyngor werthu'r gwaith gan nad ydym yn casglu gwaith celf, ac felly'n teimlo y dylid cael cartref arbennig i ddarn o waith mor ardderchog."

Dywedodd David Barrie, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf:

"Mae'r Gronfa Gelf wedi lobïo'n galed i sicrhau bod y paentiad dramatig yma gan un o awduron a arlunwyr mwyaf poblogaidd y cyfnod Fictoraidd yn cael ei ddiogelu mewn casgliad cyhoeddus. Rydym felly'n falch dros ben bod Kangchenjunga o Darjeeling am aros yn ei le dyledus yng Nghymru, gyda chymorth grant o'r Gronfa Gelf o £150,000."

Bu'r gwaith yn ne Cymru ers gadael stiwdio Edward Lear, ac felly mae lle pwysig iddo yn y casgliad wrth i ni fynd ati i gasglu gweithiau sy'n adlewyrchu hanes noddwyr Cymreig a phatrymau casglu gweithiau yn y wlad. 

Mae comisiwn  ‘Kanchenjunga' Arglwydd Aberdâr yn enghraifft eithaf cynnar o gyfoeth diwydiannol yn cael ei ddefnyddio i brynu gweithiau celf, ac mae'n rhagflaenu casgliad Davies yr Amgueddfa o weithiau celf Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ddatblygodd rhwng 1908 a 1923, gan fwyaf.  Mae cartref naturiol y gwaith hwn yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, wrth ymyl gwaith Penry Williams o gasgliad Arglwydd Aberdâr. 

Mae Amgueddfa Cymru yn ymroddedig i arddangos gweithiau pwysig o'r casgliad cenedlaethol y tu allan i Gymru ac fe fyddwn yn sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei weld a'i fwynhau mewn rhannau eraill o Gymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn y broses o ail-ddatblygu rhai o'r orielau gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd rhai orielau ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr Amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau 07 ar ein gwefan.

Am wybodaeth yngl?n â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch (029) 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

Ceir mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.