Datganiadau i'r Wasg

Gwasanaeth Dydd Cadoediad yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Ddeng mlynedd yn ôl, symudwyd Cofeb Tre-Celyn o Barc Caetwmpyn, Tre-celyn, i Sain Ffagan, a'r penwythnos hwn, 70 mlynedd ers dadorchuddio'r gofeb yn ei chartref gwreiddiol, er cof am 79 o filwyr lleol, cynhelir gwasanaeth Dydd Cadoediad yn yr Amgueddfa.

Cynhelir y gwasanaeth am 11:00 yng nghwmni yr Arglwydd Raglaw Capten Norman Lloyd-Edwards, Don Touhig AS a changen Trecelyn y Lleng Brydeinig a chyn-filwyr er mwyn nodi'r achlysur a choffau aberth milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill.

Y Parch. Margaret Jefford fydd yn arwain y gwasanaeth, sy'n dilyn gorymdaith gan Gadetiaid yr Awyrlu Blackwood 227 a band pibau, o brif fynedfa'r Amgueddfa tuag at y gofeb am 10:30 y bore. Bydd aelodau lleol o'r Guides ac Ambiwlans Sant Ioan yn ogystal ag ysgolion Ty-Newydd, Ysgol Gyfun Tre-celyn, Ysgol Gynradd Crumlin High Level, Ysgolion Pentwynmawr a Pantside yn rhan o'r digwyddiad hefyd.

Meddai John Williams Davies, Cyfarwyddwr Gweithredu Amgueddfa Cymru:

“Mae'n fraint i gynnal gwasanaeth mor arbennig gydag aelodau o'r Lleng Brydeinig yn Sain Ffagan, wrth ymyl cofeb sydd yn bwysig iawn i nifer o bobl Cymru. Bydd croeso i ymwelwyr, cyn filwyr ac aelodau o'r cyhoedd ymuno â ni ddydd Sadwrn i gofio am y rheini a frwydrodd dros heddwch a rhyddid mewn rhyfeloedd drwy'r byd.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.