Datganiadau i'r Wasg

Cyfle i dynnu lluniau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru ar fin caffael casgliad o offer ac arfau efydd cynhanesyddol o Lanbadog Fawr ym Mynwy.

Darganfuwyd y celc yn 2001 gan Mr Phil Smith wrth ddefnyddio peiriant canfod metel ar dir yn ardal Llanbadog Fawr. Rhoddodd wybod i Gynllun Henebion Cymru am ei ddarganfyddiad pwysig, ac erbyn hyn mae arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn astudio'r darganfyddiadau sy'n rhoi dealltwriaeth well i ni o fywyd yn ne Cymru adeg Oes yr Efydd. Ers 2003, ystyrir casgliadau o'r math yma yn drysor yn ôl y gyfraith.

Mae'r casgliad yn dyddio o rhwng 1000 ac 800CC, neu bron yn 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r gr?p o ddeunaw arteffact yn cynnwys nifer o fwyeill asennog, a elwir yn 'fwyeill arddull de Cymru'. Byddai nifer sylweddol o'r rhain yn cael eu gwneud, eu defnyddio a'u claddu yn ne ddwyrain Cymru ar y pryd. Ceir hefyd ddarnau o gleddyfau, blaen gwaywffon, cryman, cyllell ac isgynhyrchion gwaith castio efydd. Cawsant eu claddu gyda'i gilydd yn y ddaear, mewn pydew bach mae'n debyg, yn rhodd mewn defod i dduwiau'r cyfnod.

Dywedodd Adam Gwilt, Curadur Casgliadau Oes yr Efydd Amgueddfa Cymru "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Cymuned Llanbadog fawr am eu caredigrwydd yn cyfrannu'r eitemau i'r casgliadau cenedlaethol. Hoffem hefyd ddiolch i Phil Smith am hysbysu'r Portable Antiquities Scheme yng Nghymru yngl?n â'i ddarganfyddiad, ac am ei holl gefnogaeth. Bellach gall y cyhoedd a chenedlaethau'r dyfodol fwynhau'r darganfyddiad, a'r stori mae'n ei hadrodd".

Dywedodd Pam Sharratt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadog Fawr, "Mae'r Cyngor wrth eu bodd y bydd y celc yn cael ei gadw yn yr amgueddfa er budd ymwelwyr y presennol a'r dyfodol sydd â diddordeb yn y maes".

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07