Datganiadau i'r Wasg

Dymunwn Nadolig Llawen Cymreig i chi!

Dewch i ddathlu Nadolig llawen Cymreig yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Yn draddodiadol, byddai’r Gwyliau’n golygu tair wythnos o seibiant o’r gwaith yng Nghymru. Eleni, bydd dathliadau Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, dros wyliau’r Nadolig – Y Gwyliau – yn digwydd dros gyfnod o dair noson. Dyma gyfle i chi anghofio am straen y gwaith a mwynhau awyrgylch hudol dathliadau traddodiadol y Nadolig yn yr amgueddfa.

Ar 6, 7 ac 8 Rhagfyr 2006, byddwn yn cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu’r Nadolig Cymreig yn Sain Ffagan rhwng 6 a 9pm gan brofi traddodiadau sydd wedi cael eu harfer yng Nghymru ers canrifoedd. Gallwch wylio’r criw’r Fari Lwyd yn gofyn am Galennig unwaith eto wrth y tollborth a chanu mewn gwasanaeth carolau yn hen gapel Penrhiw sy’n ddwy ganrif oed. Bydd ffair hen ffasiwn hefyd ar gael i’ch difyrru wrth i chi gael blas ar rai o hen draddodiadau’r tymor.

Bydd y tai yn Sain Ffagan, sy’n perthyn i amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol, wedi’u haddurno’n briodol i gyfateb â’u cyfnod. Bydd Siôn Corn yn Ffermdy Cilewent ac Abernodwydd ac fe gewch glywed storïau Nadoligaidd yn cael eu hadrodd yn y Talwrn Ceiliogod o’r 17eg ganrif - un o adeiladau eraill yr amgueddfa.

Bydd cerddoriaeth yn nodwedd amlwg o ddigwyddiad Y Gwyliau, un sydd wedi dod yn un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau Sain Ffagan. Cawn glywed hyrdi-gyrdi’n croesawu ymwelwyr i’r safle, a bydd carolwyr a chanwyr clychau profiadol yn ychwanegu at y naws arbennig, ynghyd ag adloniant gan fandiau pres traddodiadol. Bydd Kariad yn cynnal sioe hud a lledrith i’r plant a’r Juggling Roadshow a Chwmni Theatr Mirage yn perfformio bob nos.

Osgowch ruthr y stryd fawr a dewch i brynu’ch anrhegion a’ch cardiau Nadolig yn siop Sain Ffagan, eich hamperi Nadolig yn Siop Gwalia neu ewch i’r stondinau celf a chrefft yn Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn ystod nosweithiau Y Gwyliau. Bydd Bwytai Digby Trout yn paratoi amrywiaeth wych o fwyd gan gynnwys barbeciw ar y safle yn ogystal â chawl, te a choffi. Bydd Popty Derwen, siop fara’r amgueddfa, hefyd yn gwerthu bara ffres a melysion.

Juli Paschalis, Swyddog Digwyddiadau, Sain Ffagan : Amgueddfa Werin Cymru sydd wedi bod yn arwain y gwaith paratoi. Dywedodd:

“Mae pobl ym mhob rhan o Ewrop wedi bod yn dathlu tymor y Nadolig ers cyfnod cynnar iawn. Byddai’r tymor yn cael ei ystyried yn bwysicach na diwrnod Nadolig ei hun. Dathliad i bobl leol fyddai’r Nadolig yn draddodiadol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o’r ardal gyfagos yn ogystal ag ymwelwyr i greu digwyddiad sy’n ganolog i’r gymuned.”

Angogir ymwelwyr i ddod a fflachlamp gyda nhw a phris mynediad i oedolion yw £5, mynediad i blant: £3 a chonsesiynau: £4. Gellir cael tocyn teulu am £13 (2 Oedolyn a 2 Blentyn). Cynigir gostyngiad o 10% i grwpiau a gellir parcio’n rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 2057 3500.

Cyfleon ffilmio, cyfweliadau a lluniau ar gael ac am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Dyma rai o ddigwyddiadau eraill y Nadolig yn Sain Ffagan:

  • 10 Rhagfyr: Gwasanaeth i ddathlu hanner can mlynedd ers symud Capel Penrhiw i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru o Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn.
  • 9 a 10 Rhagfyr: ‘Nadolig Cynaliadwy’ – Dewch i rannu cyngor gyda ni yngl?n â sut i arbed arian a gofalu am yr amgylchedd dros y Nadolig.
  • 16 Rhagfyr: ‘Llwybr Traddodiadau’r Nadolig’ – Cyfle i ddarganfod mwy am Nadoligau yng Nghymru.
  • 29 Rhagfyr: Calennig – Dewch i greu anrhegion traddodiadol Calennig ac ymweld â rhai o dai’r amgueddfa i ganu am anrhegion.