Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru'n Croesawu Siôn a Siân Corn

Bydd ymwelwyr i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar 16 Rhagfyr 2006 yn cael eu croesawu gan Siôn Corn, a'i wraig Siân Corn bydd yn diddanu'r rheini fydd yn ymweld â Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Bydd Siân Corn – gwraig Siôn Corn – yn adrodd hanesion Nadoligau'r gorffennol yn Big Pit ar 9, 10, 16 a 17 Rhagfyr ac yn egluro sut Nadolig gaiff hi a'i g?r yn ystod tymor prysura'r flwyddyn.

Bydd ymwelwyr yn mwynhau'r wefr o gael cip y tu ôl i'r llen ar Siân Corn yn ei chartref am 11.30 am, 12.30 pm, 2 pm a 3 pm ar y ddau benwythnos. Dywedodd Sharon Ford, Swyddog Addysg Big Pit: “Dyma'r ail flwyddyn i Siân Corn alw draw, a bydd gweithgareddau eleni'n well fyth na llynedd. Mae ganddi lu o storïau difyr i'w hadrodd a bydd yr holl deulu wrth eu bodd. Gall y plant hefyd greu amrywiaeth o anrhegion Nadolig i fynd adref gyda nhw, gan gynnwys canhwyllau arbennig ar gyfer y Nadolig a masgiau ceirw.”

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru hefyd yn cynnig gweithdy addurniadau tymhorol ond rhai y tro yma sydd yn addas ar gyfer gwledd Rufeinig. Ar 16 Rhagfyr, bydd Siôn Corn yn ymuno â'r Rhufeiniaid fydd yn paratoi eu cartref ar gyfer Gwyl Saturnalia.

O 11 am tan 4 pm, rhenir gwybodaeth ar ba chwedlau ac arferion y Nadolig yn y gorffennol sydd dal yn fyw heddiw, a chaiff ymwlewyr y cyfle i ddysgu mwy am darddiad cusanu o dan yr uchelwydd a'r cyswllt rhwng addurno coed Nadolig a'r Rhufeiniaid.

Cynigir mynediad am ddim i'r ddwy Amgueddfa yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ni ellir bwcio llefydd ymlaen llaw.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.