Datganiadau i'r Wasg

Gadewch i Paul Robeson Ganu ar y Glannau

Mae hanes bywyd Paul Robeson - yr actor, y canwr, a'r ymgyrchydd dros hawliau sifil, yn cael ei adrodd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae'r arddangosfa'n croniclo ymdrechion Robeson yn erbyn rhagfarn ac anoddefgarwch mewn ffordd emosiynol ac ysbrydoledig. Fe'i cynhyrchwyd gan brosiect ‘CROESO' y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. 

Mae'r Amgueddfa, sy'n rhan o Amgueddfa Cymru yn lle arbennig o addas i gynnal yr arddangosfa gan fod Robeson wedi uniaethu â chloddwyr De Cymru yn ystod y 1930au. Cafodd ei fabwysiadu gan y miloedd o lowyr oedd yn gweithio yn Ne Cymru ar y pryd, fel eicon o'r ymdrech yn erbyn gorthrwm.

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: "Mae'r arddangosfa'n archwilio bywyd dyn hynod. Mae'n edrych ar ei gysylltiadau gyda phobl Cymru, a pha mor bwysig oedd ei gyfraniad yn y frwydr am amrywiaeth a chydraddoldeb hiliol. Bydd cyfres o weithdai ysgol yn cael eu cynnal i gyd-fynd â'r arddangosfa, lle gall pobl ifanc ddysgu mwy yngl?n â Paul Robeson a'r materion yr aeth i'r afael â nhw."

Yn rhan o'r arddangosfa, byddwn hefyd yn dangos cyfres o ffilmiau'n cynnwys Paul Robeson yn yr Amgueddfa, gan gynnwys The Emperor Jones ( 21 Ion), Sanders of the River (28 Ion), Song of Freedom (4 Chwef)  a Proud Valley (11 Chwef). Bydd Beverly Humphries - cantores, awdures, darlledwraig ac ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Paul Robeson.

Bydd gweithdai arbennig hefyd yn cael eu cynnal lle gall ymwelwyr gael eu hysbrydoli gan y dyn ei hun i greu dyluniad ar grys-T i fynd adref gyda nhw. Cynhelir y gweithdai am 1.30pm ar ddydd Sul ar 28 Ionawr, 4 ac 11 Chwefror.

Bydd arddangosfa ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu' yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 18 Ionawr ac 1 Mawrth.  Am fwy o fanylion, ffoniwch yr Amgueddfa ar 01792 638950 neu ewch i'r wefan www.amgueddfayglannau.co.uk