Datganiadau i'r Wasg

Hanes y Gymraeg yn Abertawe

Os ydych chi am ddysgu mwy yngl?n â hanes y Gymraeg yn Abertawe, gwnewch yn si?r eich bod yn mynd draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Yn rhan o brosiect dwy flynedd, mae Menter Iaith Abertawe wedi gosod arddangosfa arbennig. Mae'r arddangosfa'n rhan o brosiect mwy sy'n cael ei gynnal mewn wyth Menter Iaith ledled Morgannwg i archwilio a chofnodi hanes y Gymraeg.

Bu modd cyflawni'r gwaith yn sgil grant o £50,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Yn Abertawe, archwiliwyd hanes y Gymraeg dros y ganrif ddiwethaf, gan edrych yn benodol ar yr Eisteddfod a datblygiad Addysg Cyfrwng Gymraeg yn yr ardal.

Arddangoswyd canfyddiadau pob prosiect yn Eisteddfod Abertawe y llynedd, ac yn fuan byddwn yn eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 16 Ionawr tan ganol mis Chwefror. Am fwy o wybodaeth ewch i www.morgannwg.org

Dywedodd Jennifer Stewart, Rheolwraig Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Cymru: "Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o'n treftadaeth ac mae'r prosiect hwn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth yngl?n â'n treftadaeth ieithyddol leol ymysg cymunedau lleol."

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n perthyn i Amgueddfa Cymru.

Nodiadau i'r Golygydd:

Mae Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn rhedeg saith o amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru,  Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.