Datganiadau i'r Wasg

Gwynt yn hwyliau'r Glannau

Mae'r gwynt yn hwyliau pawb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe ar ôl i sesiynau chwarae i blant bach gael hwb yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd Plantos y Glannau, sef y sesiynau newydd misol llawn hwyl i blant dan bump oed, yn dechrau'n fuan gyda chymorth cwmni yswiriant yr Admiral Group.

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal ar ddydd Llun cyntaf bob mis a'u darparu gan Holibods, ond yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd gyda chefnogaeth Admiral. Bydd thema wahanol i bob sesiwn fisol, gan roi cyfle i blant archwilio drwy chwarae, storïau a gweithgareddau symud.

Mae gan yr Admiral Group swyddfeydd yn Abertawe a Chaerdydd, ac mae'r cwmni hefyd yn cefnogi sesiynau Adrodd Storïau a Teithwyr Amser y Glannau, sy'n cynnwys dehonglwyr mewn gwisg arbennig o'r cyfnod.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Admiral, Sue Longthorn, "Rydym yn falch dros ben o gael helpu'r Amgueddfa i ddarparu gweithgareddau creadigol, rhyngweithiol ac addysgol sy'n llawn hwyl. Mae Plantos y Glannau, ochr yn ochr â sesiynau'r Teithwyr Amser ac Adrodd Storïau yn ffordd arall wych o ddod â'r Amgueddfa'n fyw a sicrhau bod plant yn cael cymaint o fwynhad ag sy'n bosibl wrth alw draw."

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n perthyn i Amgueddfa Cymru, sy'n gweinyddu chwe amgueddfa genedlaethol arall ar hyd a lled Cymru sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.