Datganiadau i'r Wasg

Penodiad newydd yn nodi cyfnod newydd i Amgueddfa Wlân Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi Ann Whittall, curadur amgueddfa profiadol, i reoli un o'i saith safle cenedlaethol, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre.

Gynt yn Swyddog Guradurol yn Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn gartref i gasgliad tecstiliau cenedlaethol Cymru, dewiswyd Mrs Whittall ar gyfer rôl Rheolwr yr Amgueddfa. Wrth i Amgueddfa Cymru ddechrau ei dathliadau canmlwyddiant, bydd Ann yn cychwyn y gwaith o ddatblygu'r safle a hyrwyddo'r casgliad i gynulleidfa ehangach.

Daw Mrs Whittall, sy'n hanu o Lanelli, â'i phrofiad fel curadur yn yr Amgueddfa Hanes Natur a Gerddi Botaneg Brenhinol Kew, lle y bu'n gweithio ar ôl cwblhau gradd mewn Bywydeg Gymhwysol ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfeydd ym Mhrifysgol Llundain.  

Ymunodd â thîm yr Amgueddfa Wlân - amgueddfa sydd yn olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru - bum mlynedd yn ôl ac erbyn hyn mae ganddi wybodaeth eang o'r Amgueddfa. Bu'n ymwneud ag ail-ddatblygiad y safle yn 2004, ac mae'n cydnabod potensial yr Amgueddfa i chwarae rôl mwy blaenllaw yn y gymuned.  

"Mae gen i gysylltiad agos iawn gyda'r Amgueddfa Wlân ac wedi ei gweld yn datblygu ers iddi ail-agor yn 2004," dywedodd Mrs Whittall. "Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith yma ond hefyd at roi stamp fy hun ar yr Amgueddfa drwy adeiladu ar ein perthynas gyda'r gymuned leol a ffactrïoedd sydd yn dal i weithio, ac, yn bwysig, rhoi tecstiliau Cymreig ar y map."

Dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Gweithredu Amgueddfeydd, Amgueddfa Cymru:

"Teimlwn bod Ann yn berffaith ar gyfer swydd Rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru. Mae eisoes wedi gweithio'n galed ar ddatblygu'r casgliad ei hun ac rydyn ni'n hyderus y bydd yr Amgueddfa'n tyfu o dan ei harweiniad."