Datganiadau i'r Wasg

Diwrnod o ddathlu a chofio am Teilo Sant

Mae dathliad blynyddol Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i nodi Diwrnod Sant Teilo yn achlysur poblogaidd ond â'r gwaith o ailgodi ac adnewyddu Eglwys Sant Teilo ar y safle yn dirwyn i ben, bydd y digwyddiad a gynhelir yn yr Eglwys ar 9 Chwefror hyd yn oed yn fwy arwyddocâol.

Symudwyd Eglwys Sant Teilo i'r Amgueddfa fesul carreg o'i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais ac fe'i hagorir yn swyddogol yn Sain Ffagan ar 14 Hydref 2007 – un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru.

Felly ag ond wyth mis yn weddill, bydd y digwyddiad yn roi cyfle i ymwelwyr i werthfawrogi'r datblygiadau diweddaraf i'r adeilad, fel y saernïaeth medrus i greu lloft a sgriniau wedi'u cerfio'n gain, gwaith paent gofalus gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a gosod ffenestri gwydr a wnaethpwyd â llaw.

Bydd ymwelwyr yn clywed y diweddaraf am atgynyrchiadau o gyfres prin iawn o furluniau lliwgar a ddatguddiwyd ar y safle yn Llandeilo Tal-y-bont, bydd yn addurno tu mewn yr adeilad. Bydd un o'r murluniau gwreiddiol yn cael ei arddangos yn Oriel 1, oriel newydd sbon fydd yn agor yn Sain Ffagan yn hwyrach yn y Gwanwyn.

Yn ogystal, dadorchuddir cloch newydd a greuwyd yn arbennig ar gyfer Eglwys Sant Teilo yn ystod gwasanaeth foreol a gynhelir yn yr Eglwys o dan arweiniad Y Parch John Walters, Pontarddulais. Wedi'r gwasanaeth, cynhelir teithiau tywysiedig rhwng 12.00 a 2.00 y p'nawn. Yn ystod y prynhawn cynhelir sgwrs gan Dr Madeline Gray ar Sant Christopher, arddangosfeydd gan y saer Ray Smith, a'r peintwyr Clive Litchfield a Jonathan Thomas a sesiwn gwrthrychau Tuduraidd gyda'r dehonglydd Sara Huws yng nghaban yr Eglwys am 3.00 y prynhawn.

“Am y tro cyntaf mae ymwelwyr wedi gweld o lygad y ffynnon y broses o ail-godi adeilad hanesyddol,” dywedodd Gerallt Nash, Uwch Guradur, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. “Mae nifer yn teithio o Bontarddulais, cartref wreiddiol yr Eglwys ar Ddiwrnod Teilo Sant er mwyn monitro datblygiad yr Eglwys. Dyma un o'n prosiectau mwyaf uchelgeisiol ac ar ol 15 mlynedd o ymroddiad gan y tîm sydd hefyd wedi rhannu'r broses gyda'r cyhoedd, rydyn ni'n edrych ymlaen at agoriad swyddogol Eglwys Sant Teilo yn yr Hydref.”

Cefnogir Diwrnod Teilo Sant yn Sain Ffagan gan Ymddiriedolaeth Elusennol G.C. Gibson, Ymddiriedolaeth Headley, Sefydliad Jane Hodge, Mr Desmond Perkins a Mrs Audrey Perkins.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffôn: (029) 2057 3486 neu e-bostiwch Catrin Mears.

Nodiadau i Olygyddion:

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.