Datganiadau i'r Wasg

Yn eisiau: Gwybodaeth am byllau glo yng Nghymru ar ol 1947

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn gobeithio cynhyrchu llyfryn â darluniau fydd yn adrodd hanes rheini ddaeth i weithio ym mhyllau glo yng Nghymru o dramor, ar ol yr Ail Ryfel Byd. Rydyn ni'n awyddus i gyfweld â chyn-lowyr yn hanu o Wlad Pwyl, Wcráin, Latfia, Yr Almaen, Yr Eidal a'r hen Iwgoslafia.

Os hoffech rannu'ch stori chi, neu os oes gennych chi wybodaeth neu luniau perthnasol, cysylltwch â Ceri Thompson, Curadur, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ar ffon: 01495 790311 neu ebost: ceri.thompson@amgueddfacymru.ac.uk