Datganiadau i'r Wasg

Y Tardis, Tŷ Tredegar a dau ffotograffydd ysbrydoledig

Bydd portreadau o Russell T. Davies a Catrin Finch, dau o enwogion mwyaf Cymru ym maes y celfyddydau a’r cyfryngau, yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Mawrth 27 Chwefror 2007.

Y cynhyrchydd a’r sgriptiwr teledu Russell T. Davies a’r delynores Catrin Finch yw testunau ail gomisiwn ffotograffig blynyddol Amgueddfa Cymru, a noddir yn hael gan AXA Art Insurance. Bydd y ffotograffau hyn yn ymuno â phortreadau Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, a’r awdur Sarah Waters o gomisiwn 2005 yn y casgliad ffotograffau cenedlaethol.

Bu’r ffotograffwyr buddugol yn gweithio mewn lleoliadau trawiadol ac eiconig, a disgrifiwyd eu gwaith gan y panel comisiynu yn ‘arloesol’ ac yn waith ‘o safon uchel’. Tynnwyd portread Russell T. Davies ar set Dr Who a dewiswyd ystafelloedd chwaethus T? Tredegar fel lleoliad ar gyfer ffotograff Catrin Finch.

Mae’r panel comisiynu’n dewis eisteddwyr sydd wedi rhagori mewn maes arbennig ac sydd â chysylltiad â Chymru. Sefydlwyd y comisiwn er mwyn cefnogi ffotograffwyr sy’n datblygu eu crefft, ac mae’n agored i rai sydd wedi graddio o goleg yng Nghymru er 2000. Y ffotograffwyr a ddewiswyd ar gyfer comisiwn 2006 yw Julie Fogarty, a enillodd radd o Brifysgol Cymru Casnewydd, ac Edith Maybin, sy’n ôl-raddedig o Athrofa Abertawe.

Dywedodd Annabel Fell Clark, Prif Weithredwr AXA Art: “Rydym ni’n falch dros ben yn AXA Art ein bod yn gallu noddi gwaith comisiwn o safon mor rhagorol, yn arbennig gan y bydd y rhain yn rhan o gasgliad parhaol yr Amgueddfa. Mae’r ddwy'n llawn haeddu cael eu dewis ar gyfer y prosiect cyffrous yma a ddechreuwyd ond blwyddyn yn ôl. Mae’r comisiwn yn adeiladu ar gryfderau’r llynedd ac yn cynnal safon uchel i’r dyfodol."

Dywedodd Pennaeth Celfyddyd Gain Amgueddfa Cymru, Ann Sumner: “Rydym wrth ein bodd gyda phortreadau trawiadol ail flwyddyn y comisiwn portreadau ffotograffig. Mae’r ffotograffwyr ifanc ac arloesol a gafodd eu hyfforddi yng Nghymru wedi dal union gymeriad Catrin Finch a Russell T. Davies. Rydym yn falch iawn o gael derbyn y ffotograffau i’n casgliad. Gan adeiladu ar lwyddiant y comisiynau blaenorol, mae’n bleser o’r mwyaf cael arddangos y ffotograffau yn y Prif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Cerdydd ac maen nhw’n si?r o fod yn boblogaidd ymysg yr ymwelwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n noddwyr AXA Art am eu cefnogaeth, ac i’n partneriaid yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.”

Mae gwaith ar y gweill i ailddatblygu ac ailwampio’r orielau celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd rhai orielau ar gau am gyfnod wrth i’r gwaith gael ei gwblhau. Bydd yr Amgueddfa’n parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith adnewyddu, a byddwn yn cynnal rhaglen amrywiol o arddangosfeydd a digwyddiadau drwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion yngl?n â’n canmlwyddiant, ewch i'n tudalennau 07. Am ymholiadau o ddydd i ddydd yngl?n â’r orielau, ffoniwch (029) 2039 7951.  Cafwyd nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu’r rhaglen adnewyddu.

Un o saith o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yr amgueddfeydd eraill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Cynigir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd drwy gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i’r Golygyddion

Y Panel Comisiynu:

Christopher Coppock, Cyfarwyddwr Ffotogallery Caerdydd; Terence Pepper, Curadur Ffotograffiaeth yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol; Paul Seawright, Athro Ffotograffiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Casnewydd; James McDowell o AXA Art Insurance; Dr Ann Sumner, Pennaeth Celfyddyd Gain Amgueddfa Cymru; Louisa Briggs, Curadur Celfyddyd Fodern a Chyfoes Amgueddfa Cymru; a Bryony Dawkes, Curadur, Celf Cymru Gyfan.

Yr lluniau:

Catrin Finch (g. 1980)

Ganwyd y delynores Catrin Finch yng Ngheredigion. Dechreuodd ganu’r delyn pan oedd yn chwech oed, a phan oedd yn ddeg oed ymunodd â Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain. Enillodd Catrin y wobr gyntaf yn adran Iau G?yl Delynau’r Byd ym 1991, a hithau’n 11 oed, yna dair blynedd yn ddiweddarach daeth yn ail yn adran yr oedolion. Yn un ar bymtheg oed ymunodd ag Ysgol Purcell yn Llundain ac yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymunodd ag Academi Llundain. Catrin oedd Telynores Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru o’r flwyddyn 2000 hyd y flwyddyn 2004, y tro cyntaf i’r teulu brenhinol roi anrhydedd o’r fath ers teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mae Catrin wedi canu’r delyn mewn llawer o wahanol wledydd ac wedi ennill llu o wobrau. Tynnwyd y llun hwn ohoni pan oedd yn cario’i phlentyn cyntaf.

Edith Maybin (g. 1969)

Cafodd Edith Maybin ei geni a’i magu yng Nghanada. Graddiodd ag anrhydedd dosbarth cyntaf o’r cwrs Meistr mewn Ffotograffiaeth yn Athrofa Abertawe yn 2006 a dyfarnwyd iddi’r teitl Ffotograffydd Rhydd y Flwyddyn 06. Wrth sôn am bortreadu dywed Edith "...dim ond llun ydy llun. Oes modd amgyffred ehangder person mewn un llun camera?" Yn ei phortread o Catrin Finch mae’n dilyn patrwm portreadau hanesyddol ond yn cyflwyno elfennau annisgwyl a gwahanol i herio’r sawl sy’n edrych ar y llun. Yn ôl Edith, "Mae Catrin yn ymdrin â’i cherddoriaeth yn yr un modd. Mae’n gwybod am ein rhagdybiaethau ac yn rhoi dehongliad newydd i ni".

Russell T. Davies (g. 1963)

Ganwyd y cynhyrchydd teledu a’r sgriptiwr Russell T. Davies yn Abertawe. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn ymuno â’r BBC tua chanol y 1980au. Cafodd ei hyfforddi i fod yn rheolwr llawr ac yn gynorthwyydd cynhyrchu, a thua diwedd y 1980au dilynodd gwrs cyfarwyddwr. Mae wedi gweithio i’r BBC ac i gwmni teledu Granada, yn cynhyrchu rhaglenni fel Why Don’t You? ac yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer dramâu gan gynnwys Dark Season, Century Falls a Children’s Ward. Fodd bynnag, mae’n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu dramâu oedolion fel Queer as Folk, The Second Coming, Doctor Who ac, yn fwy diweddar, y gyfres Torchwood a ddatblygodd yn sgîl Doctor Who ac a leolwyd yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Davies ychwanegu’r 'T' at ei enw tua diwedd y 1980au, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo ef a chyflwynydd radio o’r un enw, er nad oes ganddo enw canol!
 

Julie Fogarty (g. 1977)

Cafodd Julie Fogarty ei geni a’i magu yn Iwerddon. Graddiodd o’r cwrs ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd yn 2006 ac mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cylchgronau fel y cylchgrawn ffotograffiaeth gyfoes Source. Dewisodd Julie dynnu llun Russell T. Davies y tu mewn i’r
TARDIS ar set Doctor Who, ond mae’n canolbwyntio ar wyneb Russell ac mae’r cefndir yn aneglur. Drwy greu triptych o dri llun wedi’u cyflwyno fel un mae’n rhoi’r argraff ei bod yn dal ennyd fer.

AXA Art

AXA Art yw’r unig gwmni yswiriant sy’n arbenigo yn y celfyddydau. Mae gan y cwmni swyddfeydd ym mhob rhan o’r byd a gall yswirio pob math o risgiau sy’n ymwneud â chelf - o fân gasglwyr preifat hyd at arddangosfeydd enfawr proffil uchel. Mae AXA Art yn gwmni yswiriant niche sy’n awdurdod ym maes yswiriant. Mae hyn, ynghyd â’i ddealltwriaeth ddiguro o’r farchnad gelf, yn galluogi AXA Art i ddarparu gwasanaeth heb ei ail i bob un o’i gleientiaid, o’r  dyfynbris i’r hawliad. Mae traean tîm AXA Art yn haneswyr celf a all gynnig cyngor ac arweiniad ar reoli risg mewn perthynas â gofalu am gasgliadau sy’n seiliedig ar stôr o wybodaeth sy’n deillio o’u cyswllt agos â chadwraethwyr, adferwyr ac arbenigwyr eraill ym maes celf. Mae AXA Art yn darparu datrysiadau yswiriant wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer unigolion a chasglwyr preifat, amgueddfeydd, arddangosfeydd, gwerthwyr a chasgliadau corfforaethol. 

Am fwy o wybodaeth ewch i www.axa-art.co.uk.