Datganiadau i'r Wasg

Hawliau merched – Sgwrs min nos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rheolwyd bywyd menyw gan ei chyfrifoldebau yn y cartref - yn hen ddinas Rhufain ac yn fwy diweddar. Ymunwch â Rosemary Butler AC ac Elizabeth Mayor o Brifysgol Caerdydd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, dydd Iau 8 Mawrth (6:00 - 8:00 yr hwyr) i drafod sut mae pethau wedi newid i ferched dros y 2,000 o flynyddoedd diwethaf.

"Rydyn ni'n falch iawn fod Rosemary Butler AC ac Elizbaeth Mayor yn ymuno â ni nos Iau - Diwrnod Rhyngwladol y Merched - i archwilio rôl menywod yn hanesyddol yn ogystal a'u hawliau heddiw," dywedodd Bethan Lewis, Rheolwr Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru. "Roedd rhaid i ferched frwydro dros eu hawliau mor bell yn ôl â hen ddinas Rhufain ac mae'n ddiddorol gweld fod rhai o'r un bynciau yn cael eu trafod 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

"Bydd cyfle i holi'r siaradwyr ar ôl y sgwrs a chroesawn merched a dynion i rannu eu sylwadau gyda ni ar y pwnc."

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn £3 yr un ac fe ellir eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01633 423134.