Datganiadau i'r Wasg

Lawnsiad Llyfr - Slate of Hand

"Slate of Hand - Stone for Fine Art & Folk Art"

Cyflwyniadau a sesiynau llofnodi llyfrau mewn dau o safleoedd llechi pwysicaf Gogledd Cymru yn tynnu sylw at rinweddau artistig llechi

Y mis hwn, bydd dau o safleoedd llechi pwysicaf Gogledd Cymru  sef  Inigo Jones ym Mhen-y-groes ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, yn cynnal lansiad llyfr a chyflwyniad a fydd yn dangos sut y mae llechi wedi ysbrydoli artistiaid ar draws y byd ac yn edrych ar hanes ardaloedd chwarelyddol ar y naill ochr a’r llall i Fôr Iwerydd.

Ysgrifennwyd “Slate of Hand” gan yr awduron Americanaidd, Judy a Ted Buswick, ac mae nid yn unig yn dangos sut y mae artistiaid o fri megis Andy Goldsworthy, Richard Long a Philip King wedi defnyddio llechfaen o Gymru, ond hefyd sut y mae artistiaid o Gymru wedi defnyddio’r cyfrwng, gan roi sylw i waith Bill Rice, Howard Bowcott, Ivor Richards, Sara Humphreys a Bill Swann.

““Mae ‘Slate of Hand’  yn rhoi lle amlwg iawn i artistiaid o Gymru.” Eglurodd Judy Busiwck.

“ I gychwyn mae’n  bwrw golwg dros y gelfyddyd werin a grëwyd gan chwarelwyr a chrefftwyr ac wedyn mae’n canolbwyntio ar y celfyddydau cain.  Mae’n seiliedig ar gyfweliadau gydag artistiaid o Gymru, Lloegr, yr Alban, yr Unol Daleithiau a Chanada.

 

“Mae’r cerflunydd Ivor Richards yn defnyddio gwead llechfaen wedi’i hollti neu’n caboli’r llechfaen nes ei fod yn sgleinio; mae Howard Bowcott yn pentyrru llechfeini’n ffurfiau enfawr tra bo W J “Bill” Rice yn troi creiddiau llechfaen yn ffiolau, gan dynnu sylw at wead a lliwiau’r garreg.”

 

“Rydym yn amau bod pobl yn meddwl nad oes llawer iawn i’w drafod wrth sôn am lechfaen ar wahân i lechi toi, ond mae’r gwaith celf a ganfuwyd gennym yn amrywio o haenau tenau i weithiau anferth ac yn cynnwys ystod eang o liwiau a gweadau, ac mae’r gelfyddyd yn cael ei harddangos a’i defnyddio mewn amgueddfeydd ac orielau yn ogystal â chartrefi a mannau awyr agored.”  

 

 

 

 

 

Meddai Julie Williams, Swyddog Marchnata Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis:

 

“Mae’r llyfr hwn yn creu dolen gyswllt rhwng cymunedau chwarelyddol ar draws y byd.  Ar 19 Mai byddwn yn dathlu’r ‘gefeillio’ gydag Amgueddfa Slate Valley yn Granville, Efrog Newydd, ac ar 3 Ebrill byddwn yn croesawu band o ardal Pennsylvania, sef y ‘Bangor area Slaters Marching Band’  - ardal chwarelyddol arall yn UDA - gan ddangos bod llechi yn cysylltu cymunedau, beth bynnag fo’r cyfnod a’r pellter.”

 

Bydd y sgwrs a’r sesiwn llofnodi llyfrau gyntaf YNG NGHANOLFAN LECHI INIGO JONES YM MHEN-Y-GROES ar 23 MaWRTH 2007 aM 11.30am a bydd yr ail yn AMGUEDDFA LECHI CYMRU YN LLANBERIS AR 28 MAWRTH AM 11.00AM. Mae croeso i bawb, ond a fyddech cystal â chysylltu â’r ganolfan dan sylw ymlaen llaw i wneud yn siwr bod lle ar eich cyfer.

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

- Diwedd -

I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Julie Williams, y Swyddog Marchnata, ar 01286 873707 julie.williams@museumwales.ac.uk neu John Lloyd yn Inigo Jones ar 01286 830242

Nodiadau i Olygyddion:

1.       Mae Judy Buswick yn awdur ac yn gynhyrchydd fideos ar ei liwt ei hun. Mae erthyglau o’i heiddo wedi ymddangos mewn cylchgronau megis yr Artists’ Magazine a Planet.  Mae Ted Buswick yn hanesydd llafar, archifydd ac awdur.  Bydd y ddau ar gael i’w holi yn y safleoedd unigol. Am fwy o wybodaerth edrychwch ar y safle we www.trafford.com/06-1839

2.       Mae lluniau ar gael os oes eu hangen.