Datganiadau i'r Wasg

Pwy wyt ti'n meddwl wyt TI?

Oriel newydd yn Sain Ffagan yn trafod beth yw bod yn Gymro heddiw  

O ddydd Sadwrn 31 Mawrth 2007, bydd Amgueddfa Cymru yn gofyn i ymwelwyr i rannu straeon a chyfrinachau yngl?n â’u hunaniaeth yn Oriel 1 - oriel newydd sbon yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru sy’n archwilio ystyr Perthyn. 

Defnyddia Oriel 1 - a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality - wrthrychau, lluniau, ffilmiau, celf, straeon a phrofiadau personol i ddangos beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw. Drwy archwilio’r thema Perthyn, mae’r Oriel yn egluro fod nifer o ffyrdd gwahanol o deimlo’n rhan o’n gwlad.

 

Yn un o brif brosiectau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, mae Oriel 1 yn annog ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan a rhannu eu profiadau nhw ar sut mae eu hieithoedd, eu teulu a’u ffrindiau, eu gwreiddiau a’u credoau, yn dylanwadu ar bwy ydynt.

 

 

Bydd grwpiau cymunedol lleol, ysgolion, awduron a beirdd sydd wedi chwarae rhan allweddol yng nghreu Oriel 1 yn ymgynnull am 12:30pm ar ddydd Iau 29 Mawrth 2007 i gael y cyfle cyntaf i weld yr Oriel orffenedig.

 

 

Canlyniad un o’r partneriaethau llwyddiannus a ysgogwyd gan guraduron yr Amgueddfa yw cywaith gydag animeiddwyr ‘Cinetig’, a ymwelodd â thair ysgol yng Nghymru i gynhyrchu ffilmiau byr ar themâu symbolau a thraddodiadau cenedlaethol, Cymru fel cenedl aml-ffydd a bywyd teuluol. Creodd pobl yn eu harddegau o Ganolfan Penyrenglyn yn y Rhondda, eu fersiwn nhw eu hunain o'r ddresel Gymreig, yn arddangos gwrthrychau sydd yn bwysig iddyn nhw e.e. bwrdd sglefrio a Nintendo Game Boy, mewn casyn arall, mae arddangosfa gwydr lliw  - cyfraniad menywod ifanc Mwslemaidd o Abertawe sy’n aelodau o gr?p cymunedol SMYLe.

 

Rhan allweddol o’r Oriel yw’r ‘Wal Ieithoedd’ sy’n arddangos rhai o’r 80 o ieithoedd a siaredir yng Nghymru heddiw. Symudodd Sirajul Islam i Gaerdydd o Bangladesh yn 1963 ac mae ei stori yn cael ei hadrodd ar fideo arbennig. Dysgodd Gymraeg a heddiw, mae’n astudio ar gyfer Gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd:

 

“Symudais i Gaerdydd o Bangladesh i ddechrau bywyd newydd ac rydw i nawr yn ystyried fy hun yn Gymro. Nid oes llawer o bobl yn darllen llyfrau am hanes Cymru ac mae rhai pobl yn gofyn i fi pam yr ydw i’n gwastraffu fy amser yn darllen iaith farw? Rydw i’n meddwl ei fod yn bwysig i bobl ddysgu hanes Cymru a’i hiaith a dydw i’n sicr ddim yn credu fod yr iaith Gymraeg yn farw.”  

 

Mae Oriel 1 yn cymryd lle’r hen Oriel Ddiwylliant Materol a grëwyd yn Sain Ffagan 35 mlynedd yn ôl.  Mae’r Oriel newydd yn cyfuno gwrthrychau o gasgliadau’r Amgueddfa â’r dechnoleg ddiweddaraf. Gall ymwelwyr astudio esiamplau o gasgliad llwyau caru’r Amgueddfa a chreu eu llwy ddigidol eu hunain i’w e-bostio ar y cyfrifiadur, wrth ddysgu am ystyr y symbolau a gerfir ar y llwyau. Mae albwm o luniau digidol o rhai o adeiladau’r Amgueddfa yn cynnwys lluniau o’r tai yn eu man gwreiddiol ac o’r bobl fu’n byw ynddynt, ac mae jiwcbocs lle gall ymwelwyr ddewis a chlywed cerddoriaeth a fu’n boblogaidd yng Nghymru drwy’r oesoedd hefyd yn rhan bwysig o’r arddangosfa.

 

Mae’r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru yn cefnogi menter ddiweddaraf Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng Cymru gyfoes a’i hanes gyfoethog. Dywedodd:

 

“Mae Oriel 1 yn fenter gyffrous i Sain Ffagan - prif atyniad ymwelwyr Cymru. Tan yn ddiweddar, roedd yr Amgueddfa’n edrych ar fywyd Cymru drwy ddehongli adeiladau hanesyddol. Mae Oriel 1 wedi creu cryn argraff arna i – y modd mae’r Amgueddfa’n archwilio Cymru yn y 21ain ganrif, gyda phobl o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan mewn atyniad rhyngweithiol sy’n esblygu drwy’r amser i ddarlunio’n gywir beth yn union mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru heddiw.”

 

Bydd yr Amgueddfa yn parhau i weithio gydag ymwelwyr i ddatblygu’r Oriel.  Bydd ymateb ymwelwyr a sylwadau pobl o sawl cefndir gwahanol yn sail i drafodaeth  yngl?n â sut y dylai Oriel 1 a’r Amgueddfa gyflwyno Cymru drwy ei chasgliadau yn y dyfodol. 

 

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr weld lluniau’n adrodd hanes Cymdeithas Adeiladu’r Principality.  Mae’r noddwyr wedi creu arddangosfa arbennig yn olrhain ei hanes ers sefydlu’r gymdeithas yng Nghaerdydd yn 1860.  Ac wrth i’r gymdeithas adeiladu Gymreig baratoi at ei dathliadau pen-blwydd hi yn 150 oed yn 2010, mae’r gymdeithas yn annog aelodau’r cyhoedd i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw unrhyw wrthrych sy’n adrodd ei hanes - boed yn hen lyfr cyfrif, tystysgrif gynilo neu falle hen feiro!

 

Dywedodd Peter Griffiths, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Mae noddi’r oriel newydd hon yn Sain Ffagan, sy’n Amgueddfa wych yn adrodd hanes bywyd y Cymry trwy’r oesoedd, yn dangos ein hymrwymiad ni i Gymru a’i chymunedau.  Rydym yn falch i gael bod yn rhan o’r cynllun, ac i helpu’r Amgueddfa i ddod â hanes Cymru yn fyw i genedlaethau i ddod.”

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleon cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu ebostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

neu

 

Llio Penri, Cydlynydd Cysylltiadau Cyhoeddus, Cymdeithas Adeiladu Principality ar  029 2077 3208 / 07836 713343 / llio.penri@principality.co.uk.

 

Nodiadau i Olygyddion:

·         Y Cyfle Cyntaf i weld Oriel 1 - cynhelir digwyddiad i lansio’r Oriel yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru am 12:30pm ar 29 Mawrth 2007 er mwyn diolch i’r grwpiau gwahanol a fu’n rhan o greu Oriel 1. Trefn y dydd:

11:00am          Rhagolwg i’r wasg o Oriel 1

12:00pm          Dawnswyr Caerdydd yn perfformio

12:30pm          Lluniaeth ysgafn a’r DJ Huw Stephens, BBC yn chwarae caneuon o’r jiwcbocs sy’n rhan o’r Galeri  

1:00pm            Croeso a chyflwyniad i Oriel 1

1:20pm            Plant o ysgol gynradd aml-ethnig NinianPark yn perfformio cyfuniad o gerddoriaeth a dawnsfeydd Indiaidd a Chymreig.  

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.