Datganiadau i'r Wasg
Y Pasg – ddoe a heddiw
Dyddiad:
2007-04-03Ydych chi’n gwybod sut fyddai’r Cymry’n dathlu’r Pasg yn y gorffennol? Sut mae’n cymharu gyda’r ffordd yr ydych chi’n dathlu’r gwyliau heddiw?
Mae Sain Ffagan yn enwog am archwilio hanes y Cymry a dydy gweithgareddau’r Pasg eleni ddim yn eithriad. Cynhelir teithiau tywys arbennig ar gyfer y Pasg (3 – 5 Ebrill), beth am alw heibio Eglwys St Teilo ac ymuno mewn gweithdai paentio ar gyfer teuluoedd at thema’r Pasg (4 – 16 Ebrill), a chewch weld grwp sy’n ceisio ail-greu golygfeydd o gyfnod y Tuduriaid (7 – 11 Ebrill).
Ac mae Oriel 1, atyniad diweddaraf Sain Ffagan a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality yn cynnig hyd yn oed mwy i ymwelwyr. Dyluniwch eich llwy garu eich hun ar gem gyfrifiadurol, dewiswch eich hoff ganeuon wrth ein jiwcbcs a gwisgwch dillad plentyn o Gymru yn Oes Fictoria – hyn oll yn Oriel 1.
Yn Oriel sy’n archwilio beth yw bod yn Gymry a byw yng Nghymru heddiw mae’n cynnwys gweithiau gan yr artistiaid cyfoes Peter Finnemore, Bedwyr Williams a Marc Rees a ddefnyddiodd casgliadau Sain Ffagan fel ysbrydoliaeth i’w gwaith.
Am ragor o wybodaeth ynglyn a gweithgareddau’r Pasg, ymwelwch a www.amgueddfacymru.ac.uk.
Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.
- Diwedd -
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleon cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu ebostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.
Nodiadau i Olygyddion:
· Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.
Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.
· Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.