Datganiadau i'r Wasg
Cerddoriaeth yn yr Amgueddfa
Dyddiad:
2007-04-03Ydych chi’n aelod o gôr lleol, band, neu grwp roc neu bop? Hoffech chi arddangos eich talentau yn Amgueddfa nodedig Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru?
Mae Big Pit yn edrych am ystod eang o berfformiadau i gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Cerddoriaeth yn yr Amgueddfa’ yn ystod mis Gorffennaf ac Awst. Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Sharon Ford ar (01495) 790311 neu sharon.ford@amgueddfacymru.ac.uk.
Yn y cyfamser, mae Amgueddfa Cymru yn ymuno yn hwyl y Pasg drwy edrych ar waith a thechnegau arlunwyr fu’n gweithio yn y pyllau glo ac artistiaid gafodd eu hysbrydoli gan y pyllau glo yn Big Pit (7, 8, 9, 11 ac 13 Ebrill o 11am – 3pm). Neu dysgwch am grochenwaith y Rhufeiniaid – beth roeddynt yn ei wneud a sut roeddynt yn ei wneud yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru (2 – 15 Ebrill). Codir tal o £1 y plentyn ar gyfer y Gweithdai Crochenwaith a rhaid bwcio ymlaen llaw, ffoniwch 01633 423134.
Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.
- Diwedd -
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleon cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu ebostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.