Datganiadau i'r Wasg

Gweithgareddau'r Pasg gan Amgueddfa Wlân Cymru

Os ydych chi’n edrych am weithgareddau ar gyfer y teulu dros wyliau’r Pasg, dewch i ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre. Â mynediad am ddim i’r Amgueddfa, diolch i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, does un ffordd gwell i dreulio’ch gwyliau. Mae digwyddiadau cyffrous wedi’u trefnu eleni i ddathlu 100 mlwyddiant Amgueddfa Cymru felly dewch i ymuno yn y parti.

31 Mawrth – 15 Ebrill                                                  Chwilio am ?yn bach a helfa drysor Pasg

31 Mawrth – 6 Ebrill                                                    Dewch i wneud cardiau Pasg

6 – 15 Ebrill                                                                 Enwch y ddafad - Y Bugail a’i ddefaid amryliw

13  -15 Ebrill                                                                Ydy’r Gwanwyn wedi cyrraedd Dôl Dywyll?

5 – 13 Mai                                                                    Yr ?yl Felinau Genedlaethol

12 & 13 Mai                                                                 Mae angen ynni yn y Felin!

12 & 13 Mai                                                                 Sgyrsiau am Felinau

 

Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau yn yr Amgueddfa drwy ymweld â www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Diwedd

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu ebostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.