Datganiadau i'r Wasg

Gwedd newydd ar y dresel Cymreig

Trysorau Penyrenglyn yn cael eu harddangos yng ngaleri newydd Sain Ffagan

Ceir enghraifft o ddresel traddodiadol Cymreig yn Oriel 1 - atyniad diweddaraf Sain Ffagan - sy’n cynnwys addurniadau, tlysau a chasgliad lestri. Ond penderfynodd pobl yn eu harddegau o Brosiect Ieuenctid Penyrenglyn, Rhondda mai skateboard a Nintendo Game Boy fyddai’n gweddu eu dresel nhw. 

Yn wynebu’r her o guradu dresel modern ar gyfer galeri newydd yr Amgueddfa, sy’n cael ei noddi gan Gymdeithas Adeiladu Principality, dewisodd pobl ifanc o Benyrenglyn eitemau oedd yn bwysig iddyn nhw, a byddant yn gweld canlyniad eu gwaith yn ystod lansiad cymunedol yn Sain Ffagan heno (25 Ebrill 2007).

Dewisodd Chelsea Kerr o Benyrenglyn ei blanced babi. Dywedodd:

“Rydw i’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect ac roeddwn i’n gwybod yn syth fy mod eisiau i fy mlanced babi i fod ar y dresel. Mae’r flanced wedi bod gyda fi ers i mi gael fy ngeni. Mae wedi gwisgo tipyn! Mae wedi bod drwy’r trwch gyda fi.”

Ymysg yr eitemau eraill y mae pêl-droed Arsenal wedi ei lofnodi, tlws Chwaraewr y Flwyddyn, bathodyn snwcer, Game Boy Nintendo, cerrig hud a chylch allwedd Clwb Pêl-droed Caerdydd. Yn rhan bwysig o Oriel 1, bydd y dresel yn cael ei harddangos am chwe mis.   

“Mae’r dresel cymunedol - a grëwyd gan bobl ifanc o Benyrenglyn - yn ymateb modern i’r dresel traddodiadol Cymreig,” dywedodd Sioned Williams, Curadur, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. “Mae Oriel 1 yn canolbwyntio ar beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry a byw yng Nghymru heddiw. Roedd hi’n bwysig i ni felly i gynnwys barn pobl ifanc Cymru heddiw. Roedd hi’n brofiad gwych i weithio gyda’r bobl yn eu harddegau ac rydyn ni’n falch bydd eu hymdrechion yn cael eu harddangos i eraill werthfawrogi.”

Hon yw’r cyntaf mewn cyfres o gynlluniau cymunedol ar gyfer Oriel 1, un o brosiectau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru. Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch ag Owain Rhys ar 029 2057 3529 neu owain.rhys@amgueddfacymru.ac.uk .

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk .

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Oriel 1 yw atyniad diweddaraf Sain Ffagan sy’n defnyddio gwrthrychau, lluniau, ffilmiau, celf, straeon a phrofiadau personol i ddangos beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw. Drwy archwilio’r thema Perthyn, mae’r Oriel yn egluro fod nifer o ffyrdd gwahanol o deimlo’n rhan o’n gwlad. Mae Oriel 1 yn annog ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan a rhannu eu profiadau nhw ar sut mae eu hieithoedd, eu teulu a’u ffrindiau, eu gwreiddiau a’u credoau, yn dylanwadu ar bwy ydynt.

 

  • Yn rhan o gynllun Valleys Kids, prosiect gwirfoddol ar gyfer y sector ieuenctid a datblygiad cymunedol yw Penyrenglyn sydd yn seiliedig yn Nhreherbert yng Ngogledd Rhondda Fawr. Drwy gydweithio gyda phobl o bob oedran, gan gynnig cefnogaeth a gwasanaethau o fewn y gymuned, maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau o fewn eu clybiau i blant a phobl ifanc a rhai dosbarthiadau diddorol ar gyfer oedolion. 

 

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.