Datganiadau i'r Wasg

Animeiddiad yn dod â Chymru heddiw'n fyw

Ffilmiau byr gan ddisgyblion o Gymru yn cael eu harddangos yng ngaleri newydd Sain Ffagan

Ar ddydd Gwener (20 Ebrill 2007), bu pobl ifanc o dair ysgol Gymreig yn datgelu eu syniadau nhw yngl?n â beth yw bod yn Gymry a byw yng Nghymru heddiw, drwy lansio’u ffilm newydd a grëwyd ar gyfer Oriel 1 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

 

Cafodd disgyblion o Ysgol Gymunedol Neyland, Sir Benfro, Ysgol Bontnewydd, Caernarfon ac Ysgol Ninian Park, Caerdydd y cyfle i weithio gyda’r cwmni ffilm broffesiynol Cinetig, i greu cynyrchiadau’n seiliedig ar deulu, credoau a chenedl, tair o’r themâu sy’n cael eu harchwilio yng ngaleri newydd Sain Ffagan, Oriel 1. 

 

Enillodd Cinetig, sy’n gweithio gyda phobl o bob oedran a gallu i greu ffilmiau o ansawdd uchel, grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Ionawr 2006. Defnyddiwyd yr arian i weithio gyda’r bobl ifanc i greu cyfres o ffilmiau byr sy’n canolbwyntio ar fywyd yng Nghymru dros y canrifoedd a sut mae’n berthnasol i’n bywydau ni heddiw.

 

Daeth y plant 10-11 mlwydd oed i Sain Ffagan fis Mai diwethaf i weithio gyda churaduron o’r Amgueddfa fel rhan o’u hymchwil. Dysgon nhw am wahanol adeiladau’r Amgueddfa yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai ac fe’u hysbrydolwyd i ysgrifennu stori a script ar gyfer eu ffilmiau.

 

Mwynhaodd Shahria Ahmed o YsgolNinianPark y profiad. Dywedodd:

“Mae’n ffilm ni am y pethau gwahanol mae pobl yn credu ynddynt. Petawn ni gyd yn credu yn yr un pethau byddai’n fyd diflas iawn. Roedd pobl yn credu mewn pethau gwahanol yn y gorffennol hefyd ac edrychon ni ar rai esiamplau yn Sain Ffagan. Roeddwn i’n hoffi’r esgidiau a gwneud o’r breichiau symud yn y ffilm.”

 

Mrs Ferne Davies yw Prifathrawes ysgol fawr aml-ethnig NinianPark:

 

“Fe ddiddanwyd y plant yn syth ac roeddech chi’n medru gweld fod eu lefelau diddordeb yn cael eu cynnal,” dywedodd. “Nid ydynt fel arfer yn cael cyfle fel hyn, yn enwedig yn ystod eu gyrfa ysgol gynradd.”

 

Cyflwynwyd y tair ffilm, sy’n cael eu harddangos yn Oriel 1, gan yr ysgolion ar ddydd Gwener. Bu’r bobl ifanc hefyd yn gwylio ffilm sy’n crynhoi’r broses o greu’r cynyrchiadau.

 

Nia Williams, Cydlynydd Hanes Cymdeithasol a Diwydiannol Amgueddfa Cymru a gydlynodd y prosiect ar ran yr Amgueddfa. Dywedodd:

 

“Yn ogystal â darparu cyfle i bobl ifanc i ddefnyddio’u dychymyg, ffynonellau hanesyddol a gwrthrychau i greu ffilmiau, rydyn ni hefyd yn gobeithio y byddant o fudd i’m hymwelwyr. Mae’r ffilmiau’n gwneud hanes a threftadaeth yn fwy diddorol ac o fewn cyrraedd cynulleidfa eang sy’n dangos fod hanes a diwylliant yn berthnasol i bawb.” 

 

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Gwneuthurwyr ffilm broffesiynol yw Cinetig sy’n cydweithio â’r gymuned i gynhyrchu ffilmiau llawn dychymyg a phryfoclyd ar ddewis each o bynciau.

 

Wrth weithio ar brosiectau addysgiadol, mae Cinetig yn annog pobl ifanc i brofi’r broses o gynhyrchu ffilm. Mae’r bobl ifanc hefyd yn rhan o gyflwyno’r ffilm orffenedig i westeion mewn digwyddiad arbennig.

 

Mae Cinetig wedi cydweithio gydag ysgolion, mudiadau ieuenctid, amgueddfeydd, artistiaid a galerïau.

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.