Datganiadau i'r Wasg

Dwy Amgueddfa Lechi'n dod ynghyd

Gefeillio Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Slate Valley, Granville, UDA

Ar 19 Mai 2007, bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn dathlu ‘gefeillio' ag Amgueddfa Slate Valley, Granville, Talaith Efrog Newydd, gan dynnu sylw at y berthynas hirbarhaol rhwng pobl Cymru a phobl Unol Daleithiau America.

Mae'r gefeillio hwn yn un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, a bydd yn pwysleisio'r berthynas ddiwylliannol a hanesyddol rhwng cymunedau chwarelyddol Gogledd Cymru a chymunedau Ardal Lechi UDA.

Cychwynnodd y broses hon dros dair blynedd yn ôl pan ddechreuodd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, a Mary Lou Willits, Curadur Amgueddfa Slate Valley, Granville, Efrog Newydd, lythyru â'i gilydd.

"Cynhaliodd Amgueddfa Slate Valley, Granville, eu dathliadau hwy y llynedd, a'n tro ni yng Nghymru yw dathlu yn awr," meddai Dr Roberts.

"Byddwn yn dathlu'r cysylltiadau diwylliannol a diwydiannol rhwng y ddau safle ac yn dangos sut mae'r diwydiant llechi wedi creu cymunedau unigryw yn y ddwy gymdeithas.  Dros ganrif yn ôl, pan oedd arian yn brin iawn yn ardaloedd llechi gogledd Cymru, symudodd nifer o deuluoedd i'r Unol Daleithiau i chwilio am fywyd gwell - i Granville a rhannau eraill o UDA.   Byddwn yn adrodd rhai o'r storïau a glywsom gan bobl leol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf am eu perthnasau yn America.  Mae rhai ohonynt yn dal mewn cysylltiad â'i gilydd hyd y dydd heddiw.

"Mae Amgueddfa Lechi Cymru eisoes wedi cynnal dau ddigwyddiad sy'n gysylltiedig â Gogledd America eleni.  Cafodd llyfr newydd o'r enw ‘Slate of Hand' gan Judy a Ted Buswick, sy'n trafod artistiaid o Gymru, UDA a rhannau eraill o'r byd sy'n defnyddio'r llechfaen yn gyfrwng celfyddydol, ei lansio ym mis Ebrill.  Hefyd, bu'r Bangor Slater Marching Band, Pennsylvania, a oedd ar daith Dreftadaeth yng Nghymru, yn perfformio yma.  Bydd y digwyddiad hwn felly yn atgyfnerthu ein cysylltiadau rhyngwladol."

Yn ogystal a seremoni swyddogol i ddathlu'r diwwyddiad cynhelir diwrnod o adloniant I deuluoedd, a cheir cerddoriaeth gan y band Cymreig - Amercanaidd poblogaidd, Cajuns Denbo. Bydd y cor cymysg, Cor Cyntaf I'r Felin yn canu'r gan Gymreig boblogaidd ‘Moliannwn' a gyfansoddwyd gan Benjamin Thomas, a anwyd ym Methesda, Gwynedd, ond a dreuliodd y rhan fwyaf o'I oes yn North Pawlet, talaith Efrog Newydd.

Meddai Michael Houlihan, Cyarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Mae'n bleser gennym fod yn gysylltiedig ag Amgueddfa Slate Valley.  Bydd hyn yn ein helpu ni fel Amgueddfa i ddeall y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad o safbwynt hanesyddol, diwylliannol a ffordd o fyw.  Mae gefeillio yn cynnig cyfle unigryw i ni i ddysgu am hanes dinasyddion gwledydd eraill ac am eu bywydau heddiw, i gyfathrebu â hwy ac, yn aml, i feithrin cyfeillgarwch, fel y gwnaed eisoes yn achos Amgueddfa Slate Valley.

 "Mae'r gefeilio hwn yn rhan o raglan canmlwyddiant Amgueddfa Cymru ac mae'n rhan bwysig o strategaeth ryngwladol yr Amgueddfa, sy'n canolbwyntio ar Ogledd America ar hyn o bryd. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys lasnio ein casgliadau argraffiadol ac ol-argraffiadol cenedlaethol - Lliw a Goleuni - yn Efrog Newydd, a bydd casgliad yn mynd ar daith drwy Ogledd America yn ystod 2008/09"

Ychwanegodd Mary Lou Willits, Cyarfwyddwraig Gweithredik Amgueddfa Slate Valley Granville:

"Mae cysylltiad daearegol a dynol rhwng y ddwy ardal lechi.  Mae'n mynd yn ôl dros 500 miliwn o flynyddoedd i'r adeg pan ffurfiwyd llain lechi gyffredin a phan oedd y ddau ranbarth yn rhan o'r un ehangdir, ac fe barhaodd gydag ymfudo miloedd o chwarelwyr o Gymru i weithio yn chwareli Slate Valley, Efrog Newydd a Vermont o'r 1850au hyd at y 1920au.

Daeth y Cymry â'u teuluoedd, eu harferion a'u traddodiadau gyda hwy, a chawsant effaith sylweddol nid yn unig ar y diwydiant llechi yn America ond hefyd ar strwythur cymdeithasol y trefi hynny y symudasant iddynt.

"Heddiw, mae Amgueddfa Slate Valley yn casglu ac yn cofnodi hanes y Cymry o fewn y diwydiant llechi yn America, ac mae'n naturiol felly ein bod wedi sefydlu perthynas ag Amgueddfa Lechi Cymru.  Bydd meithrin ac atgyfnerthu'r berthynas hon yn fanteisiol i'r naill a'r llall, a byddwn yn rhannu'r arfer gorau, yn cyfnewid gwybodaeth hanesyddol o'n casgliadau ac yn denu cynulleidfaoedd newydd drwy godi ymwybyddiaeth o'r ddau safle yn y ddwy wlad."

Cynhelir y digwyddiad cyhoeddus hwn rhwng 2pm a 4pm ar 19 Mai 2007, ac mae mynediad am ddim, megis i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru - National Musuem Wales - yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru'n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  I gael rhagor o fanylion, ewch i'r tudalennau 07 ar ein gwefan - www.museumwales.ac.uk.

- Diwedd -

I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Julie Williams, y Swyddog Marchnata, rhif ffôn: 01286 873707 julie.williams@museumwales.ac.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Gall pobl sy'n chwilio am eu gwreiddiau Cymreig edrych ar yr Hughes-Jones Collection of Articles of Interest to Researchers of Welsh-Americans from the New York/Vermont Slate Communities, 1873-1936.  Cynhyrchwyd y ddwy gyfrol (353 tudalen) gan John A. Jones, Middle Granville, ac Iwan Hughes, Rhuthun, Cymru, a gyfieithodd yr erthyglau Cymraeg a ymddangosodd mewn papurau newydd Cymreig-Americanaidd a dogfennau eraill i Saesneg.
  1. Mewn ymgais i ddianc o'r sefyllfa economaidd ansefydlog yng Nghymru, ymfudodd Chwarelwyr Cymreig a'u teuluoedd i Slate Valley o'r 1850au i'r 1920au.  Roedd y diwydiant llechi newydd yn America yn awyddus i recriwtio gweithwyr o Gymru a oedd yn meddu ar y profiad a'r medrau angenrheidiol i gloddio haenau llechi cyfoethog y dyffryn.  Cyflogwyd nifer helaeth o Gymry gan eu bod yn chwarelwyr medrus, ac yn aml caent y swyddi gorau yn y chwarel.  Llwyddodd rhai chwarelwyr o Gymru i ddod yn berchenogion cyfoethog.