Datganiadau i'r Wasg

Golwg lliwgar ar Gymru heddiw

Bydd aelodau o Gynghrair Mwslemiaid Ifanc Abertawe (SMYLe) yn dod at ei gilydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru am 4:30 y prynhawn ar ddydd Sadwrn (28 Ebrill 2007) i lansio’u harddangosfa gwydr lliw a grëwyd yn arbennig ar gyfer atyniad diweddaraf yr Amgueddfa, Oriel 1.

 

Galeri newydd yw Oriel 1 sydd yn dangos fod nifer o wahanol ffyrdd o berthyn i’n gwlad. Fe’i cefnogir gan Gymdeithas Adeiladu Principality ac fe’i crëwyd ar y cyd gyda grwpiau cymunedol, ysgolion, awduron, artistiaid a beirdd.

 

Drwy gydweithio gyda’r artist Huda Awad, defnyddiodd aelodau o SMYLe wydr i ddatgelu eu teimladau nhw yngl?n â beth mae’n ei olygu i berthyn i Gymru, gan greu arddangosfa wydr lliw a fydd yn rhan o Oriel 1 am y chwe mis nesaf. 

 

Ysbrydolwyd y gr?p gan gasgliadau Sain Ffagan:

 

“Y t? coch mawr yn Sain Ffagan a’m hysbrydolodd i oherwydd y patrymau clymog o fewn y to,” dywedodd Habibah, 13 mlwydd oed o SMYLe. “Rydw i hefyd yn hoffi siâp ffenestri’r Eglwys. Fe unais i’r rhain â phatrymau o gelf Islamaidd.”

 

Disgrifiodd Rena, 24 mlwydd oed ei chynllun hi: “Rydw i wedi cynnwys ‘Abertawe’ mewn nifer o wahanol ieithoedd yn fy rhan i - Bengali, Arabaidd a Chymraeg – er mwyn arddangos fy niwylliant, fy nghrefydd a ble rydw i’n byw.”

 

Pan gyflwynwyd y merched i’r prosiect yn wreiddiol, roeddent yn frwdfrydig yngl?n â bod yn rhan o hanes Cymru. Mae’r prosiect wedi gadael iddynt fynegi eu hunain yn greadigol ac fe ddadorchuddiwyd talentau cudd yn ystod y broses.

 

“Mae’n haws i fi fynegi fy hun drwy wydr na thrwy baent,” dywedodd yr artist Huda Awad. “Rydw i’n gallu teimlo’n isel, wedyn yn gweld darn o wydr a theimlo wow. Mae gwydr fel estyniad o olau ac mae ganddo fywyd ei hun. 

 

“Fe gyflwynwyd y gr?p i’r technegau gwahanol o ddefnyddio gwydr; trwy gydweithio i greu’n hargraff ni o Sain Ffagan ond o safbwynt Arabaidd. Mae rhai o’r merched nawr yn selogion dros wydr a’i brydferthwch. Mae gennym dröedigion gwydr difrifol!”  

Hon yw’r cyntaf mewn cyfres o gynlluniau cymunedol ar gyfer Oriel 1, un o brosiectau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru. Bydd yr arddangosfa nesaf yn cael ei chreu gan Bwyllgor Puja Cymru. Os ydych chi’n aelod o gr?p cymunedol ac am gymryd rhan, cysylltwch â Sioned Hughes, Curadur ar 029 2057 3442 neu e-bostiwch sioned.hughes@amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Nodiadau i Olygyddion:

  • Oriel 1 yw atyniad diweddaraf Sain Ffagan sy’n defnyddio gwrthrychau, lluniau, ffilmiau, celf, straeon a phrofiadau personol i ddangos beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw. Drwy archwilio’r thema Perthyn, mae’r Oriel yn egluro fod nifer o ffyrdd gwahanol o deimlo’n rhan o’n gwlad. Mae Oriel 1 yn annog ymwelwyr o Gymru a thu hwnt i gymryd rhan a rhannu eu profiadau nhw ar sut mae eu hieithoedd, eu teulu a’u ffrindiau, eu gwreiddiau a’u credoau, yn dylanwadu ar bwy ydynt.

 

·         Principality - Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru - yw prif noddwr Oriel 1, yr atyniad diweddaraf yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Trwy fuddsoddi yn yr Oriel, a gafodd ei chreu mewn cydweithrediad â grwpiau lleol, ysgolion, artistiaid a llenorion, mae’r Principality yn anrhydeddu ei hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru.

Wedi ei ffurfio yn 1860, mae gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality dros 50 o ganghennau ar draws y wlad a thros 420,000 o aelodau.   

            Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â www.principality.co.uk.

·        Mae cwmni lloriau WESTCO, sy’n cyflenwi lloriau o bren a ‘laminate,’ yn falch i noddi cyfres o lyfrynnau gweithgaredd i deuluoedd i’w defnyddio yn Oriel 1 ac ar draws safle Sain Ffagan.