Datganiadau i'r Wasg

Penwythnos yn troi'n Wythnos Genedlaethol yn yr Amgueddfa Wlân

Gyda thros 300 o felinau ar draws y DU yn dathlu Penwythnos Cenedlaethol Melinau mis yma (mis Mai), mae’r Amgueddfa Wlân yn Nre-fach Felindre yn paratoi i gynnal wythnos lawn o ddigwyddiadau cyffrous o 5 - 13 Mai 2007.

Trefnir Penwythnos Cenedlaethol Melinau gan Gymdeithas Amddiffyn Adeiladau Hynafol ac eleni bydd Amgueddfa Wlân Cymru, sy’n archwilio diwydiant gwlân Cymru, yn ymuno â nhw i ddathlu treftadaeth melino’r wlad.

Caiff ymwelwyr i’r Amgueddfa’r cyfle i brofi melin weithiol a bydd crefftwyr profiadol yn cynnal sgyrsiau am hanes cyfareddol y peirannau.

"Byddwn ni’n arddangos cynnyrch gan felinau presennol Cymru yng ngaleri tecstilau’r Amgueddfa," dywedodd Ann Whittall, Rheolwr yr Amgueddfa. "Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau tywys ac arddangosiadau o’r peiriannau, cinio gwehyddwyr yng nghaffi’r Gorlan a chewch weld un o felinau Cymru sy’n parhau i redeg, yn gweithio."

Ar 12 a 13 Mai, cynhelir gweithdy olwyn dd?r ar y safle, bydd Keith Rees - Technegydd yn yr Amgueddfa Wlân - yn cynnal sgwrs ar y diwydiant wlân a bydd teithiau tywys yn parhau yn Gymraeg a Saesneg.

"Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif, y diwydiant wlân oedd yn cynnal cymuned wledig Cymru ac roedd y Cymry’n dibynnu ar nyddu a gwehyddu," ychwanegol Mrs Whittall. "Bu Dre-fach Felindre, sy’n gartref i Amgueddfa Wlân Cymru, yn ganolbwynt i’r diwydiant.

"Mae’r Amgueddfa ar safle’r hen Cambrian Mills, oedd unwaith yn un o felinau mwyaf Gorllewin Cymru. Felly mae’n addas iawn ein bod ni’n cynnal wythnos o ddigwyddiadau i nodi Wythnos Genedlaethol Melinau a chofio am bwysigrwydd gwlân yn hanes Cymru, yn ogystal â dathlu llwyddiant y diwydiant heddiw."

Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau’r Amgueddfa ar www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/canmlwyddiant/.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.