Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa a Llyfrgell yn cyflwyno'r goron

Dau o brif sefydliadau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n gyfrifol am noddi Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint eleni.

Mewn seremoni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 18 Mai, cyflwynir y Goron i’r Eisteddfod a’r Orsedd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y ddau sefydliad eleni a’u gwerthfawrogiad o gyfraniad yr Eisteddfod i fywyd diwylliannol Cymru.

Sefydlwyd yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaehtol drwy Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907 a phenderfynwyd y byddai noddi’r Goron yn yr Eisteddfod a gynhelir yn Yr Wyddgrug eleni yn ffordd deilwng o ddangos gwerthfawrogiad y ddau sefydliad o bwysigrwydd yr Eisteddfod i fywyd Cymru.

Dylunwyd y Goron gan y gemydd o Lanelli, Mari Thomas. Mari fu’n gyfrifol am gynllunio Coron yr Eisteddfod y llynedd hefyd ac fe enillodd y Fedal Aur yn y gystadleuaeth celf a chrefft yn 2003.

Mae ei chynllun wedi ei seilio ar fwclus aur y Lunula o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd yn Llanllyfni – un o’r darnau gemwaith hynaf o Gymru, a gedwir yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae Coron Mari mewn 98 darn cywrain ac yn adlewyrchu dalennau llyfr a’r marciau a welir ar y Lunula. Gwneir Coron yr Eisteddfod o arian ac aur 18 carat a cymerodd bron i bedwar mis i’w chwbwlhau.

Meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru, ‘Sefydliadau cenedlaethol yw sylfaen hunaniaeth genedlaethol unrhyw wlad. Mae’n briodol iawn, felly, bod tri o sefydliadau cenedlaethol amlycaf Cymru yn cydweithio yn y modd hwn.’

Cyflwyno’r Goron:
2.30 pm ddydd Gwener 18 Mai
Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth a lluniau cysylltwch â
Sian James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru
(029) 2057 3175 / 07812 801356