Datganiadau i'r Wasg

Y Gyfrinach tu ôl i Feddyginiaethau Naturiol

Sudd winwnsyn - gwella golwg ac yn dda i’r stumog; hadau ciwcymbr mâl - trin clefyd y  llygad a llefrithen; garlleg - ar gyfer salwch a achosir gan newid d?r a lleoliad - dyma farn y Rhufeiniaid!

 

Seiliwyd meddyginiaethau’r Rhufeiniaid ar lysiau ac i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Feddygaeth Lysieuol bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn datgelu cyfrinachau yngl?n â’u technegau meddygol o 18 - 25 Mai 2007.  

 

Gan fod y Rhufeiniaid yn drwgdybio meddygon - a hynny efallai am fod ganddynt fwy o enw am greu poen nag am wella cleifion - roedd yn well ganddynt ddefnyddio perlysiau, llysiau a mineralau. Dyma fydd ffocws arddangosfa’r Amgueddfa Lleng Rufeinig dros yr wythnos nesaf.

 

“Mae rhai o’r meddyginiaethau naturiol a ddefnyddir heddiw wedi goroesi ers cyfnod y Rhufeiniaid, er enghraifft ‘cwpanu’ a ddefnyddiwyd gan Gwyneth Paltrow ar ôl rhoi genedigaeth,” dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. “Cwpanu yw gosod cwpanau wedi eu twymo dros y croen i annog rhediad y gwaed er mwyn lleddfu straen a phoen - techneg a ddefnyddiwyd miloedd o flynyddoedd yn ôl. Hefyd defnyddir ffenigl heddiw i drin problemau stumog - dull arall a ddefnyddiwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig.”  

 

Cynigir mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

 

Mae Amgueddfa Cymru’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am fwy o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan – www.amgueddfacymru.ac.uk.

 

 Diwedd

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3486 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk