Datganiadau i'r Wasg

Yn Eisiau: Eich Plastig

Dewch ag unrhyw hen fagiau plastig i Faes Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin.

Mae Amgueddfa Wlan Cymru yn annog pobl i beidio â gwaredu'u bagiau plastig ond yn hytrach i ddod a nhw i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin wythnos nesaf (18 Mai - 2 Mehefin) er mwyn creu ‘ryg gynaliadwy.'

"Un ffordd i ail-gylchu bagiau plastig yw gwehyddu gyda nhw, a dyna'n union beth fyddwn ni'n ei wneud gydag ymwelwyr i'n stondin yn yr Eisteddfod eleni," dywedodd Kate Evans, Swyddog Addysg, Amgueddfa Wlan Cymru. "Dewch a'ch bagiau plastig ac fe ddangoswn ni i chi sut i newid eich plastig i edafedd - gweithgaredd sy'n addas ar gyfer pobl o bob oedran! Y nod yw i greu wal amryliw fydd yn cael ei harddangos y tu allan i'r stondin."

Bydd Amgueddfa Wlan Cymru hefyd yn creu cwilt yn seiliedig ar un o gasgliad yr Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn medru dysgu sut i wau gyda gwlân a rhoi eu stamp nhw ar ran o gwilt fydd yn datblygu drwy'r wythnos. 

Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau'r Amgueddfa ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.