Datganiadau i'r Wasg

Diwydiant, Diwylliant: cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru

14 Gorffennaf 2007 - 6 Ionawr 2008

I ddathlu canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, caiff arddangosfa bwysig sy'n edrych ar fywydau hynod y chwiorydd Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963) ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cronnodd y ddwy chwaer eithriadol hyn un o gasgliadau celf mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, a nhw oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chan mlynedd gyntaf.

Roedd y chwiorydd yn wyresau i’r diwydiannwr enwog, David Davies Llandinam (1818-1890), dyn oedd wedi gwneud ei ffortiwn ei hun drwy’r diwydiant glo. Roedd y teulu’n Anghydffurfwyr blaenllaw o egwyddor; ni briododd y chwiorydd ac arhosodd y ddwy yn llwyrymwrthodwyr ac yn sabothwyr llym gydol eu hoes. Cyfrannodd y ddwy’n hael at elusennau a sefydliadau diwylliannol Cymru gan brynu Neuadd Gregynog yn Sir Faldwyn ym 1920 er mwyn creu canolfan i’r celfyddydau a man i drin a thrafod materion cymdeithasol.

Mae gwybodaeth newydd gyffrous yn awgrymu bod y chwiorydd yn wybodus iawn am hanes celf. Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn trafod sut aethant ati i gronni eu casgliad ac yn ceisio gosod Gwendoline a Margaret yng nghyd-destun ehangach eu bywydau a’u hamrywiol diddordebau.

Ymysg y gweithiau yn yr arddangosfa bydd La Parisienne enwog Renoir, Eglwys Gadeiriol Rouen Monet, tri o’i olygfeydd o Fenis, Y Gusan gan Rodin a gweithiau eraill gan Manet a Pisarro. Mae’r casgliad yn cynnwys gweithiau eiconaidd eraill fel tri o luniau Monet o lilïau d?r, Glaw – Auvers Van Gogh, gweithiau gan Millet, Daumier a Carrière yn ogystal â gweithiau’r Hen Feistri a pheintiadau Prydeinig modern o eiddo’r chwiorydd.

Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru a churadur yr arddangosfa: “Yn aml iawn, mae pobl yn gweld y casgliad celf gwych a adawodd Gwendoline a Margaret Davies i’r amgueddfa ar ei ben ei hyn. Mae’r arddangosfa’n gosod y casgliad wrth galon dyngaredd diwylliannol ehangach y chwiorydd. Mae’n dangos sut darparodd y gweithiau celf gefndir ysbrydoledig i drafod y problemau cymdeithasol ac economaidd yng Ngregynog rhwng y ddau Ryfel Byd.” 

Bydd llyfr hyfryd llawn darluniau Cyfoeth, Celf a Chydwybod: llafur cariad Chwiorydd Gregynog, yn cyd-fynd â’r arddangosfa a bydd yn cynnwys ffotograffau o gasgliadau preifat y teulu a gwaith ymchwil newydd gan guraduron Amgueddfa Cymru.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, cewch ymweld ag amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, am ddim.

Mae gan Amgueddfa Cymru’n gweinyddu saith amgueddfa ar hyd a lled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. I gael rhagor o fanylion ewch i dudalennau 07 ar ein gwefan. Os oes ymholiad cyffredinol gennych am yr orielau celf, ffoniwch  029 2039 7951.

-Diwedd-

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:
Julie Richards, Swyddog y Wasg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ffôn uniongyrchol: (029) 2057 3185 Ffôn poced: 07876 476695
E-bost: julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk