Datganiadau i'r Wasg

Stori Newydd am Gelfi Cymreig

Yn ganlyniad 16 mlynedd o ymchwil gan yr awdur Richard Bebb, cafodd ‘Welsh Furniture 1250 – 1950, A Cultural History of Craftsmanship and Design’ – a gyhoeddwyd gan Saer Books a chynhyrchwyd gyda chymorth Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei lansio’n swyddogol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar Ddydd Gwener, 15 Mehefin 2007.

Mae dros 1,500 o luniau a 750 o dudalennau'n adrodd stori celfi Cymreig a'u ddatblygiad dros gyfnod eang o 700 mlynedd fel yr eglura Dr Eurwyn William, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ei rhagair:

"Tour de force yw gwaith Richard Bebb, sy'n ehangu gorwelion. Mae'r raddfa amser a astudir yn ehangach na'r arferol; gan 450 mlynedd ac mae'r stori'n cyrraedd 1950. Ond byddai hyn oll yn ddiystyr oni bai fod gan yr awdur stori i'w hadrodd a gellwch fod yn hollol sicr fod stori ganddo."

 llais awdurdodol ar gelfi hynafol Cymreig, astudiodd Richard Bebb filoedd o ddarnau o gelfi a channoedd o ddogfennau, a chanlyniad ei waith yw ‘Welsh Furniture 1250 - 1950, A Cultural History of Craftsmanship and Design.' Mae'r llyfr yn addo i fod yn gyfeirlyfr clasurol ar gyfer haneswyr, crefftwyr, rheini sy'n ymwneud a chynllunio celfi a'r celfyddydau addurnedig, gwerthwyr hen bethau, perchnogion a chasglwyr, a phawb sy'n ymddiddori mewn diwylliant Cymreig. 

Gellir prynu copïau o'r llyfr yn siopau Amgueddfa Cymru a cheir rhagor o wybodaeth am ‘Welsh Furniture 1250 - 1950, A Cultural History of Craftsmanship and Design' (ISBN 978-0-9553773-1-0) ar www.welshfurniture.com.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar ffon: 029 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk. Mae lluniau o'r awdur a'r llyfr ar gael hefyd.