Datganiadau i'r Wasg

Llwybr Newydd i Domen Lo Coity - O domen rwbel pwll glo i warchodfa natur

Cafodd llwybr newydd ei lansio ddydd Iau, 14 Mehefin 2007 a fydd yn galluogi ymwelwyr i agosáu at natur ar Domen Coity, wrth ymyl Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, sy'n raddol yn cael ei gytrefu gan blanhigion ac anifeiliaid arbennig a phrin.

Cafodd llwybr newydd ei lansio ddydd Iau, 14 Mehefin 2007 a fydd yn galluogi ymwelwyr i agosáu at natur ar Domen Coity, wrth ymyl Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, sy'n raddol yn cael ei gytrefu gan blanhigion ac anifeiliaid arbennig a phrin.

Diolch i'r llwybr newydd, bydd pobl leol, ysgolion a thwristiaid yn gallu mwynhau'r domen sy'n gartref i grug, llus a digonedd o fywyd gwyllt erbyn hyn. Heddiw, mae'n anodd dychmygu taw hen domen rwbel a ddaeth i'r golwg yn sgil y gwaith i godi'r glo yw'r lleoliad pleserus hwn.

Datblygwyd y cynllun gan Big Pit, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon, ac fe'i hariannwyd gan Raglen Blaenau'r Cymoedd ac Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n agor ardal oedd gynt yn anhygyrch, diolch i lwybr o amgylch pwll y domen, paneli dehongli a thaflen arbennig.

"Mae'r llwybr yn torri tir newydd nid yn unig yma ym Mlaenafon ond dros Gymru," dywedodd Bob Wellington, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a agorodd Llwybr Tip Coity'n swyddogol dydd Iau gyda Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru. "Dyma un o'r ychydig lefydd yng Nghymru a Phrydain efallai lle mae tomen rwbel o'r diwydiant mwyngloddio yn nodedig am ei gwerth naturiol a chadwraeth."

Yn ôl Mr Loveluck, mae'r safle hefyd yn darparu cyswllt diogel rhwng Big Pit, Llynnoedd y Garn a Rheilffordd Pont-y-p?l a Blaenafon:

"Dyma esiampl wych o bartneriaeth effeithiol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a rhai o brif atyniadau Blaenafon. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cynllun yn ychwanegu at brofiad yr ymwelydd ac at gynnig Safle Treftadaeth y Byd. Mae hefyd yn adnodd gwerthfawr arall y gallwn gynnig fel rhan o'n pecyn addysgiadol yn Big Pit, fydd yn cael ei ehangu yn hwyrach eleni gyda chanolfan addysgiadol newydd sy'n cael ei harianu gan wobr Gulbenkian a Chronfa Dreftadaeth y Loteri."

Bydd Llwybr Tomen Coity'n troi ardal hanesyddol oedd yn cael ei difetha gan feiciau modur a cherbydau oddi ar y ffordd a lle'r oedd problemau gwrthgymdeithasol yn cynyddu, yn ddarpariaeth ddymunol ar gyfer y bobl leol.

"Mae'r fenter gyffrous hon yn rhan o raglen Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau datblygiad cynaliadwy ar gyfer cymunedau Blaenau'r Cymoedd fel rhan o economi deinamig Cymru," dywedodd Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Huw Lewis.

"Mae'r Cymoedd yn fwy gwyrdd ac yn lanach heddiw nag y bu ers 200 mlynedd, ac rydym yn croesawu'r datblygiad yma i barhau â'r broses."

- Diwedd -

Am ragor o fanylion, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â:

Catrin Mears
Swyddog Cyfathrebu
Amgueddfa Cymru
(029) 2057 3486 / catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk

neu

Katie Gates
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
(01633) 648329 / Katie.Gates@Torfaen.gov.uk.