Datganiadau i'r Wasg

Ai chi yw bwytäwr mwyaf ffyslyd Casnewydd?

Yn y Sioe Filwrol Rufeinig a gynhelir yng Nghaerllion ar 7 ac 8 Gorffennaf 2007, bydd y cogydd Sally Granger yn derbyn yr her o fwydo bwytäwr mwyaf ffyslyd Casnewydd a’r ardal. Mae’r Amgueddfa Lleng Rhufeinig yn chwilio am wirfoddolwr sy’n barod i drio ryseitiau sy’n hanu o gyfnod y Rhufeiniaid – prydiau y mae Sally Granger yn gobeithio a fydd newid eu dirnadaeth o fwyd.

Oherwydd dewis cyfyngedig a’u technegau cynhaliaeth syml, mae’r Rhufeiniaid yn enwog am eu gallu i wneud bwyd gwael i flasu’n dda a throi bwydydd syml yn brydiau mwy diddorol gan ddefnyddio perlysiau a sawsiau.

Gan ddefnyddio technegau fel rhostio, berwi a choginio mewn ffwrn tandoori, bydd Sally Granger yn dangos sut y gall gynhwysion fel mêl, saws pysgod, ffacbys a pherlysiau gwahanol drawsnewid prydau syml yn rhai blasus.

Felly os ydych chi’n troi eich trwyn ar nifer o fwydydd, neu’n adnabod rhywun fyddai’n gweddu’r teitl ‘bwytäwr mwyaf ffyslyd’ e-bostiwch Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru yn fussyeater@amgueddfacymru.ac.uk a disgrifiwch eich, neu eu, harferion bwyta mewn dim mwy na 100 o eiriau. Cofiwch gynnwys eich enw a manylion cyswllt.

Caiff y person a ddewisir ei wahodd i gymryd rhan yn her y cogydd yn Sioe Filwrol Rufeinig i flasu bwyd gwahanol i’r arfer!

Cynhelir y Sioe Filwrol Rufeinig – digwyddiad ar gyfer y teulu cyfan – ar 7 a 8 Gorffennaf 2007 rhwng 10am a 5pm. Gellir archebu tocynnau o flaen llaw drwy gysylltu â’r Amgueddfa Lleng Rhufeinig ar 01633 423 134 (Oedolion £4, Gostyngiadau £2, Teulu £10.) Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan.

Diwedd Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3486 neu anfonwch e-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk