Datganiadau i'r Wasg

Teithio i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar y ffordd fawr?

Newyddion Pwysig am Gau Heol: Codi Pont ar Heol Fabian - Bwriedir codi'r strwythur enfawr ar benwythnosau gan gychwyn ar 20 a'r 27 Gorffennaf 2007. Bydd yn rhaid cau Heol Fabian yn y ddau gyfeiriad ar y penwythnosau hynny. Bydd yr heol yn cau rhwng 7.00 pm a 10.00 pm ar y dydd Gwener ar y penwythnosau hynny ac yn parhau i fod ar gau hyd at 6 am ar y bore Llun.

Mae angen cau heolydd yn llwyr er diogelwch y cyhoedd, yn arbennig gan gofio maint yr craeniau sydd eu hangen a'r amser sydd ei angen ar gyfer gosod y peiriannau a'u datgymalu ar ôl cwblhau'r gwaith. Mae angen tua 8 awr fel arfer i wneud hyn.

Hefyd bydd angen cau rhai lonydd tu allan i'r oriau brig a chau'r heol yn gyfan gwbl dros nos yn ystod yr wythnos.

Camau'r gwaith

Dylid nodi bod gweithio gyda'r craen yn ddibynnol ar y tywydd, yn arbennig os oes gwyntoedd cryf, ac felly mae'n bosib y bydd angen addasu'r dyddiadau isod pe bai amodau o'r fath yn effeithio ar y gwaith. Paratoir ar gyfer cau'r heol ar ddyddiadau ychwanegol ar y ddau benwythnos canlynol rhag ofn bod oedi gyda'r gwaith.

Mae hyn yn drefniant wrth gefn i baratoi ar gyfer amodau tywydd anffafriol.

Cau'r Heol ar Benwythnos Rhif 1

(7pm Gwener, 20 Gorffennaf-6 am Llun, 23 Gorffennaf 2007)

Codi'r mast, trawst cefn (mewn dau hanner), a phedwar panel dec ger y cyfosodiadau. Bydd y contractwr yn gweithio dyddiau 24 awr yn ystod y cyfnod mae'r ffordd ar gau.

Cau'r Heol Rhif 2

(7pm Gwener, 27 Gorffennaf-6 am Llun, 30 Gorffennaf 2007)

Codi gweddill yr unedau dec a'r cynhalbyst rhaffau.

Bydd y contractwr yn gweithio dyddiau 24 awr yn ystod y cyfnod mae'r ffordd ar gau.

Cyffredinol

Argymhellir bod traffig i mewn ar hyd Heol Fabian yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Langdon gyda chytundeb Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ABP

Bydd traffig allan yn cael ei ddargyfeirio i'r gogledd tuag at Cyffordd 44 a Chyffordd 45 yr M4

Bydd yr arwyddion VMS ar yr M4 yn cynghori yn erbyn defnyddio Cyffordd 42 i fynd i mewn i Ganol Dinas Abertawe (Nodwch bod hyn ar gyfer Canol Dinas Abertawe yn unig)

Mwy o wybodaeth ar www.swansea.gov.uk