Datganiadau i'r Wasg

Cyfle i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ennill Gwobr Loteri Genedlaethol.

Dewiswyd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i frwydro yn erbyn llu o brojectau eraill a ariannir gan y Loteri i ennill Gwobr Loteri Genedlaethol, £2,000 a chyfle i ymddangos ar deledu cenedlaethol.

 

Mae’r Amgueddfa yn un o ddeg cynllun a enwebwyd yng nghategori Project Treftadaeth Gorau y gwobrau ac anogir pobl o Abertawe i ddangos eu cefnogaeth drwy bleidleisio drosto.

 

Bellach yn dechrau ar eu pedwaredd blwyddyn llwyddiannus, mae’r Gwobrau yn ceisio cydnabod y gwahaniaeth y mae projectau o bob maint a ariannir gan y Loteri yn ei wneud i gymunedau lleol, a dathlu llwyddiannau y pobl sy’n eu cynnal. Dewiswyd Abertawe fel safle ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau oherwydd bod ei leoliad a’i hanes wedi’u clustnodi fel y rhai mwyaf perthnasol wrth adrodd hanes diwydiannol a morol Cymru.

 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn wynebu’r angen ar gyfer amgueddfa atyniadol sy’n delio gyda hanes dynol Cymru ddiwydiannol, ac mae wedi arloesi wrth adrodd y straeon hyn gydag arddangosfeydd rhyngweithiol, aml-gyfrwng.

 

Cynorthwyodd arian y Loteri i greu cartref trawiadol i’r Amgueddfa, sy’n cynnwys warws hanesyddol wrth y dociau ynghydac adeilad cyfoes arloesol. Mae’r Amgueddfa bellach yn atyniad sylweddol i ymwelwyr, yn croesawu dros chwarter miliwn o ymwelwyr y flwyddyn ac mae’n datblygu enw da rhyngwladol yn gyflym ar gyfer ardderchogrwydd a dyfeisgarwch yr arddangosfeydd a’r dehongli.

 

Meddai Dr Richard Bevins, llefarydd ar ran yr Amgueddfa: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Wobrau’r Loteri Genedlaethol, a gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn dangos eu cefnogaeth."

 

Cychwynnodd y bleidlais gyhoeddus ar 9 Gorffennaf ac mae’n dod i ben ar 3 Awst. Bydd y tri project â’r nifer uchaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol. Bydd yr ennillwyr yn cael eu dangos mewn rhaglen deledu arbennig ar BBC1, ac yn ennill £2,000.

 

I gofrestru eich pleidlais ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ffoniwch 0845 386 8117 neu ewch at neu www.lotterygoodcauses.org.uk/awards. Mae’r llinellau pleidleisio eisoes ar agor ac yn cau am ganol dydd, Gwener 3 Awst.

 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn rhan o Amgueddfa Cymru, sy’n cynnal chwe amgueddfa genedlaethol arall ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.

 

Mae mynediad i bob un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, codwyd dros £20 biliwn a dosbarthwyd dros 250,000 o grantiau ledled y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd. Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ceisio dathlu a chydnabod y gwahaniaeth y mae projectau wedi’u hariannu gan y Loteri wedi ei wneud i bobl, llefydd a chymunedau ledled y DG.

 

Diwedd

 

Nodiadau i olygyddion: 

Am bob punt sy’n cael ei wario ar y Loteri Genedlaethol, mae 28c yn mynd at Achosion Da.

Mae chwaraewyr Loteri Genedlaethol yn codi £25 miliwn yr wythnos ar gyfer Achosion Da.

Mae’r Loteri Genedlaethol yn darparu cyllid ledled y celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon, amgylchedd, iechyd, addysg, prosiectau gwirfoddol ac elusennau.

Mae dros hanner yr holl grantiau Loteri yn llai na £5,000, gan gynorthwyo projectau i wneud gwahaniaeth mawr.

Am fwy o wybodaeth am y Dyfarniadau ewch at wefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol: www.lotterygoodcauses.org.uk/awards.

Pris y galwadau pleidleisio yw cost galwad leol BT o 1.5c.

Lansiwyd y gwobrau ym mis Mawrth, ac anogwyd projectau i enwebu eu hunain, neu gael eu henwebu gan y cyhoedd. Dewisodd panel annibynnol o feirniaid y deg project ar y rhestr fer ym mhob categori.

Cyhoeddir yr enillwyr ar raglen arbennig ar BBC1 ar nos Sadwrn, 15 Medi 2007.

 

Gellir trefnu dyfyniadau a/neu gyfweliadau gyda’r prosiectau ar y rhestr fer. Am fwy o wybodaeth i’r cyfryngau neu gyfweliad/dyfyniad cysylltwch â

Fay Harris ar (01792) 638970 neu fay.harris@museumwales.ac.uk

 

Kirsty MacLeod ar 020 7211 3998 neu kirsty.macleod@lotterygoodcauses.org.uk

 

Matthew Mansfield ar 020 7211 1855 neu matthew.mansfield@lotterygoodcauses.org.uk.