Datganiadau i'r Wasg

Priodfab a Phriodferch yn mynd Danddaear

Fe wnaeth ymwelwyr i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru fwynhau eu diwrnod gymaint, maen nhw'n dychwelyd yno dydd Sadwrn (14 Gorffennaf) gyda'u gwesteion priodas!

Bydd David Halpin a Cheryl Akers yn priodi yn Nhredegar y penwythnos yma, ond cyn y seremoni swyddogol, mae eu gwesteion wedi cael gwahoddiad i ymuno â nhw i brofi bywyd fel glowyr yn Big Pit. 

Dim ond yr ail gwpwl erioed i gynnwys y daith danddaear fyd-enwog yn eu cynlluniau priodas, byddant yn teithio 300tr lawr i grombil y ddaear am 10:00 y bore i gyfeiliant Cor Meibion Abertileri.

Cynigir mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfleon cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ffon: 029 2057 3486 / 07920 027067 neu ebostiwch: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.