Datganiadau i'r Wasg

Un eicon ar bymtheg o saith rhyfeddod Cymru

Ar 31 Gorffennaf 2007, daw sêr o bob rhan o Gymru at ei gilydd ar raglen deledu newydd i bledio achos eu dewis fel trysor mwyaf y genedl.   

Bydd y rhaglen, National Treasures, yn proffilio’r 16 trysor mwyaf eiconaidd o’r casgliadau yn ein saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru. Sêr byd chwaraeon, y teledu, byd cerddoriaeth, boneddigion a hyd yn oed arwr rhyfel fydd yn cyflwyno’r eiconau ac yn dathlu beth yw ystyr Cymreictod.

 

Meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd i gydweithio â BBC Cymru ar y project yma, ac mae’n wych cael gweithio gyda Chymry mor boblogaidd yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gyfres yn sbarduno dychymyg pobl ac yn annog pobl o bob rhan o Gymru a’r tu hwnt i bleidleisio dros eu hoff drysor cenedlaethol.”

 

Caiff y gyfres ei darlledu ar BBC 2 Cymru, a chaiff pob rhaglen ei chyflwyno o un o’r saith amgueddfa. Bydd staff yr Amgueddfa a haneswyr annibynnol fel Dr John Davies yn helpu i gyflwyno’r trysorau a bydd y sêr yn dysgu rhagor am eu trysorau wrth ymchwilio i’w hanes a’u pwrpas yn eu dydd.

 

Caiff y cyhoedd bleidleisio dros eu hoff drysor o’r pedwar bob wythnos, a bydd yr enillwyr yn ymddangos yn y sioe derfynol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa edrych yn fanylach ar bump hoff drysor y genedl (un o bob sioe a’r gorau o’r gweddill).

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: www.bbc.co.uk/waleshistory.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Cynigir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â:

Sian James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Cymru

Ffon: (029) 2057 3175

E-bost: sian.james@amgueddfacymru.ac.uk

 

neu

 

Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru

Ffon: (029) 2057 3486

Symudol: 07920 027067

E-bost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk