Datganiadau i'r Wasg

Cerddoriaeth ar y Patio, yr olaf yn y gyfres

Bydd Band Oakdale yn cwblhau cyfres o ddigwyddiadau ‘Cerddoriaeth ar y Patio' Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru dydd Sadwrn yma (4 Awst) am 2 pm. Byddant yn dilyn dau berfformiad llwyddiannus gan Fand Tref Tredegar a Phedwarawd Jazz Graham Watkins a ddiddanodd cannoedd o ymwelwyr ym mis Gorffennaf.

Mae ail hanner y gyfres wedi ei gohirio tan Hydref 2007 oherwydd datblygiadau ar y safle i ehangu adnoddau addysgiadol yr Amgueddfa. Ond mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi ei threfnu ar gyfer ymwelwyr i'r Amgueddfa. Adroddir straeon gan wraig glöwr Maggie Morgan ar 6, 8, 10 a 11 Awst, dewch ar daith natur o gwmpas hen domen wastraff pwll y Coety ar 20, 22 a 24 Awst ac wrth gwrs cynhelir gweithgareddau yng nghanolfan addysg newydd Big Pit fydd yn agor yn yr Hydref 2007.

Mae mynediad i'r digwyddiadau am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch (01495) 790311, e-bostiwch BigPit@amgueddfacymru.ac.uk neu ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth neu gyfleoedd gyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu drwy ffonio (029) 20573486 neu e-bostio catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.