Datganiadau i'r Wasg

Baddonau Pen Pwll yw trysor mwyaf y genedl

Yr wythnos hon datguddiwyd hoff wrthrych y Cymry yn ystod rhaglen National Treasures gan BBC Cymru oedd yn proffilio’r eiconau mwyaf o gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Yn yr olaf o gyfres pum rhan a ddarlledwyd ar BBC2 Cymru, yn cynnwys 16 o’r eiconau mwyaf gellid eu darganfod yn saith safle Amgueddfa Cymru, enwyd Baddonau Pen Pwll Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn drysor mwyaf y genedl.

 

Ar ôl pedair wythnos o wylwyr yn pleidleisio dros eu hoff wrthrych - pob un yn cael eu cyflwyno gan seren o Gymru - daeth Baddonau Pen Pwll a wnaeth cymaint o wahaniaeth i fywydau glowyr a’u teuluoedd i frig y rhestr. Dyma oedd dewis y gantores Bonnie Tyler.

 

Dywedodd Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru:

 

“Rydyn ni’n falch iawn i ennill y wobr. Mae’r Cymry wedi dewis Baddonau Pen Pwll fel trysor mwyaf y genedl, sydd yn addas gan fod y Baddonau’n adrodd straeon pobl o Gymru a’r helyntion oedd yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

 

“Mae gan Amgueddfa Cymru nifer o wahanol drysorau ac roedd cynnwys y Baddonau yn y rhaglen yn fraint. Rydyn ni’n hapus iawn ac yn falch mai’r Baddonau yw’r enillydd.”

 

Cyrhaeddodd y cwrwgl, Eglwys St Teilo, y delyn deires, Ffermdy Abernodwydd a Chadair yr Eisteddfod o Shanghai, oll o Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru y 10 uchaf. Roedd Injan Trevithick a welir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Caban Amgueddfa Lechi Cymru, y Crwban Lledrgefn o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’r Beddrod Rhufeinig o Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn boblogaidd ymysgu gwylwyr hefyd.

 

Yn ystod y rhaglen olaf, ymunodd Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru yn y ddadl i drafod beth yn union a olygir gan ‘drysor y genedl’ ynghyd â Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC, lobiydd Mari James, a’r hanesydd diwylliannol Peter Stead. Dywedodd:

 

“Mae’r amrywiaeth o wrthrychau a gyrhaeddodd y 10 uchaf yn adlewyrchu ystod casgliadau Amgueddfa Cymru. Nid saith safle gwahanol yn treiddio i ddiwydiannau sy’n bwysig i hanes Cymru yn unig sydd gennym, ond o fewn yr amgueddfeydd hynny, ceir dros bum miliwn o wrthrychau sy’n helpu adrodd straeon am sut y bûm yn byw. 

 

“Gyda 90,000 o wylwyr yr wythnos, mae’r Cymry wedi dweud eu dweud. A thrwy gydweithio gyda BBC Cymru, rydym yn falch iawn yr oeddwn yn medru rhoi’r cyfle i’r cyhoedd ymchwilio i mewn i’n casgliadau a mynegi eu barn nhw ar ba eitem ddylai gael ei choroni’n drysor mwyaf y genedl.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: www.bbc.co.uk/waleshistory.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â:

Sian Walters, Pennaeth Marchnata a’r Cyfryngau , Amgueddfa Cymru

Ffon: 029 2057 3176

Ebost: sian.walters@amgueddfacymru.ac.uk

 

neu

 

Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru

Ffon: 029 2057 3486

Symudol: 07920 027067

Ebost: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk

 

Nodiadau i’r golygydd:

 

Deg eicon mwyaf poblogaidd yn ôl rheiny a bleidleisiwyd:

1        Baddonau Penpwll – Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru (Bonnie Tyler)

2        Cwrwgl – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Gareth Edwards)

3        Y Delyn Deires – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Mike Peters)

4        Ffermdy Abernodwydd - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Shan Legge-Bourke)

5        Injan Trevithick – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe (Owen Money)

6        Cadair yr Eisteddfod - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Robert Croft)

7        Caban – Amgueddfa Lechi Genedlaethol (Glyn Wise)

8        Crwban Lledrgefn – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (Iolo Williams)

9        Beddrod Rhufeinig – Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru (Simon Weston)

10  Eglwys St Teilo - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (Ruth Madoc)