Datganiadau i'r Wasg

Gwefan newydd i ddatguddio ein trysorau "cudd"

Am 12 o'r gloch ar ddydd Gwener 31 Awst bydd Amgueddfa Cymru'n lansio Rhagor - gwefan newydd a fydd yn datgelu nifer o'r trysorau o gasgliadau ein saith amgueddfa genedlaethol am y tro cyntaf.

Bydd Rhagor yn cynnwys dros gant o erthyglau, mapiau a chwisiau yn ogystal a:

  • modelau gwydr manwl o greaduriaid y dyfnfor
  • protread minatur o'r 17feg ganrif gyda gwisgoedd ffansi y gallwch eu troslusgo arlein
  • meteorau - yr eitemau hynaf yn y casgliadau
  • y peth mwyaf a wnaed o aur Cymru
  • ffotograffau, atgofion a hanesion personol a anfonwyd gan aelodau o'r cyhoedd.

Mae'r rhain ymysg nifer o eitemau a ddefnyddir ar gyfer ymchwil arbenigol neu sy'n rhy fregus i gael eu harddangos yn y modd confensiynol.

"Dyma gam cyntaf project cyffrous iawn ar gyfer Amgueddfa Cymru" meddai Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

"Bydd Rhagor yn datblygu dros amser i gynnwys mwy o erthyglau, delweddau a nodweddion rhyngweithiol eraill a fydd yn gwneud casgliadau, ymchwil ac arbenigedd yr Amgueddfa yn hygyrch yn fyd-eang".

Mae Rhagor yn un o uchafbwyntiau pwysicaf dathliadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru. Bydd modd profi Rhagor, o 31 Awst yn www.amgueddfacymru.ac.uk/Rhagor