Datganiadau i'r Wasg
Saethyddion ledled y byd yn dewis targed Cymreig
Dyddiad:
2007-09-06Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i gynnal Pencampwriaeth Byd Saethyddiaeth Maes
Ar 9 Medi 2007, bydd cystadleuwyr o ar draws y byd yn dod at ei gilydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i ymarfer a pharatoi ar gyfer Pencampwriaeth Byd Saethyddiaeth Maes FITA a gynhelir yn yr Amgueddfa yn 2008.
Cynhelir y Bencampwriaeth mewn tri lleoliad yn ne Cymru rhwng 1 a 6 Medi 2008 a’r rowndiau terfynol fydd yn yr Amgueddfa awyr agored yn Sain Ffagan.
Cynhaliwyd y Bencampwriaeth gyntaf - a berchnogir gan y Federation Internationale de Tir a l’Arc (FITA) - yn 1959. Fe’i cynhelir bob dwy flynedd erbyn hyn. Yn ôl Jean Howells, Cadeirydd y Pwyllgor Trefnu:
“Mae hon yn gyfle gwych i Gymru arddangos ei hun i weddill y Byd. Rydw i’n hynod o falch gyda’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd y staff sydd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad ym mhob un o’r safleoedd ac yn hyderus y gallwn ni drefnu Pencampwriaeth sydd yn glod i bawb.”
Mae Matthew Davies, Cydlynydd Gweithgareddau Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth blwyddyn nesaf. Dywedodd:
“Rydyn ni’n falch iawn bod Sain Ffagan wedi cael ei dewis i gynnal digwyddiad mor fawr yn y calendr chwaraeon. Yn arbennig rydyn ni’n edrych ymlaen at flwyddyn nesaf pan fyddwn ni’n cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr haf a’r hydref i gyd-fynd â’r gystadleuaeth. Bydd hyn yn rhoi mewnwelediad i ymwelwyr o sgil saethyddiaeth a themâu perthnasol.”
Cynhelir y digwyddiad eleni – sef cyfle i’r saethyddion ymgyfarwyddo â’r safle yn Sain Ffagan – o 10am hyd at 5pm ar ddydd Sul 9 Medi 2007. Ceir mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymruyng Nghaerllion, Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3486 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.